Darlithydd mewn Rheoli Gwesty Rhyngwladol

| £35,845 - £41,526 pro rata y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Education & Training

2 swydd barhaol (a chyfleoedd â thâl fesul awr) ar gael:
Llawn Amser (37 awr, 1.0CALl), Parhaol - Gogledd Lloegr, gweithio o gartref
Rhan Amser (22.2 awr, 0.6CALl), Parhaol - Campws Abertawe, gweithio o gartref

- Y RÔL -
Bydd swydd Darlithydd mewn Rheoli Gwesty Rhyngwladol (RGR) wedi'i lleoli yn yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd (ARhI).

Bydd deiliad y swydd yn addysgu ar ein rhaglenni Tystysgrif a Gradd ar y cyd â’n partneriaid gwesty. Caiff cyfran sylweddol o’r rhaglen ei chyflwyno ar-lein a thrwy lleoliadau mewn gwestai ac felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau TG ardderchog yn ogystal â’r gallu i greu perthnasau gwaith effeithiol gyda darparwyr gwestai. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddod â’u profiad diweddar a pherthnasol helaeth o letygarwch i’w gwaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau ac ymagweddau addysgu i gorff myfyrwyr amrywiol yn ogystal â darparu canllaw academaidd a bugeiliol i ddiogelu presenoldeb, dilyniant, cyrhaeddiad a phrofiad myfyriwr rhagorol. Mae gwybodaeth o Reolaeth Busnes a phrofiad helaeth diweddar o weithio yn y diwydiant lletygarwch yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Cyfeiriwch at y Swydd Ddisgrifiad am ragor o fanylion, lle cewch hefyd Fanyleb yr Unigolyn sy’n rhestru’r meini prawf hanfodol a dymunol.

- GOFYNION -
Bydd yn ofynnol i chi fod â:
• Gradd anrhydedd
• Cymhwyster addysgu NEU brofiad o hyfforddi mewn amgylchedd lletygarwch
• Cymhwyster ôl-raddedig mewn disgyblaeth berthnasol NEU brofiad proffesiynol cyfwerth

Hefyd dylai fod gennych y canlynol:
• Gwybodaeth ddiweddar helaeth a phrofiad o reoli o fewn y diwydiant lletygarwch o fewn un neu fwy o’r meysydd a ganlyn:
o Bwyd a Diod
o Gweithrediadau Gwesty
o Swyddfa Flaen
o Gweinyddiaeth Gwestai
o Rheolaeth Adnoddau Dynol mewn cyd-destun Gwesty
• Profiad o gyflwyno ac asesu ar lefel israddedig (neu gyflwyno hyfforddiant cyfwerth) mewn busnes / lletygarwch / rheolaeth
• Hyfedredd TG a phrofiad o ddefnyddio e-adnoddau yn cynnwys parodrwydd i addysgu drwy gyswllt fideo, ADRh, e-bost neu gyflwyno drwy wefan

- GWYBODAETH BELLACH -
• Ystyrir ceisiadau wrth ymgeiswyr sy’n dymuno rhannu swydd
• Bydd gyda chi 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, pro rata (ynghyd ag 8 gwyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau, pro rata)

- SUT I WNEUD CAIS -
Cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais Nawr’ er mwyn dechrau eich cais. Bydd pob tudalen o’ch cais yn cael ei harbed pan fyddwch yn gwasgu ‘Nesaf’ neu ‘Yn ôl’.

Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu yn seiliedig ar eich atebion i gwestiynau’r cais ac, yn benodol, eich Datganiad Atodol.

Noder: Eich iaith at ddibenion gohebu fydd yr iaith a ddefnyddiwch i gyflwyno eich cais.

Dyddiad cau: 9 Chewfror 2021, 11:59 yp