Swyddog Dylunio Gwasanaethau / Service Design Officer

| Grade 7- £34,262.71 - £36,703.07

Employer: Sport Wales
Sector/Specialism: Charity

Teitl y swydd: Swyddog Dylunio Gwasanaethau
Adran: Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid
Cyflog: Graddfa 7- £34,262.71 - £36,703.07
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Pwy ydym ni

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma. I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru, gwyliwch y fideo ar ein tudalen gyrfaoedd.

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.

Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion Chwaraeon Cymru yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu codi, bydd Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa yn un o’n tri lleoliad (Caerdydd, Caernarfon a Glannau Dyfrdwy) a'ch cartref, i gyd-fynd orau â'ch amgylchiadau personol.

Bydd y rôl hon yn cynnwys teithio rheolaidd ledled Cymru.

Sut byddwch yn cyfrannu

Mae hwn yn gyfle newydd a chyffrous i chwarae rhan allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth Chwaraeon a Datblygu Gwasanaethau. Gan weithio ar y cyd ar draws Chwaraeon Cymru, byddwch yn rhan o’r Tîm Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid.

Yn cael ei harwain gan wybodaeth, pwrpas y rôl yw cyflwyno atebion arloesol i ddiwallu anghenion partneriaid ac ymgorffori diwylliant o ragoriaeth o ran boddhad cwsmeriaid yn Chwaraeon Cymru.

Bydd y rôl yn allweddol ar gyfer y canlynol:

- Cefnogi partneriaid gyda'u heriau a'u cyfleoedd drwy eu harchwilio a dylunio, datblygu a defnyddio atebion sy'n ychwanegu gwerth.
- Arwain a chefnogi dull o ymgorffori meddylfryd profiad cwsmeriaid i sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn dylunio, yn datblygu ac yn defnyddio prosiectau a chynhyrchion sy'n diwallu anghenion defnyddwyr.

Dros amser bydd y meysydd gwaith yn newid fel ymateb i flaenoriaethau’r Cynllun Busnes newydd ac anghenion partneriaid, ond mae’r pwrpas yn parhau yr un fath - sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn diwallu anghenion partneriaid drwy fod â chynhyrchion a gwasanaethau perthnasol a gwerthfawr a meddylfryd â’i ffocws ar gwsmeriaid ym mhopeth rydym yn ei wneud.

Gyda phwy fyddwch yn gweithio

Byddwch yn gweithio gydag arweinwyr strategol a phobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol o amrywiaeth eang o sefydliadau sydd â diddordeb mewn arwain a darparu cyfleoedd chwaraeon a hamdden - gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Cenedlaethol, Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Ymddiriedolaethau Hamdden, Sefydliadau'r Trydydd Sector a llawer mwy. Byddwch hefyd yn gweithio gydag ymgynghorwyr arbenigol allanol.

Yn fewnol, byddwch yn cydweithredu â chydweithwyr ar draws cyfarwyddiaethau.

Beth fydd arnoch ei angen

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â gwybodaeth am y System Chwaraeon yng Nghymru, profiad o feithrin perthnasoedd a'r gallu i ddylanwadu.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sydd â’i ffocws ar atebion ac sy'n gallu arwain ac ysbrydoli eraill.

Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.
Edrychwch ar y disgrifiad swydd am restr lawn o ofynion hanfodol a dymunol ar gyfer yr ymgeiswyr.

Beth sy'n digwydd nesaf

Am wybodaeth bellach ewch i'n gwefan.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, anfonwch e-bost atom.

Dyddiad cau: Hanner dydd (12pm) ar 26ain Ebrill 2021
Dyddiad dros dro y cyfweliad: 6 - 7 Mai 2021

Job title: Service Design Officer
Department: Service and Partner Development
Salary: Grade 7- £34,262.71 - £36,703.07
Working hours: 37 hours per week (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)

Who we are

Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. ?We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds.?We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.

Equality, Diversity & Inclusion is at the heart of everything we do at Sport Wales. Further information on this can be found in our Equality, Diversity & Inclusion Statement here.

We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you. To find out what it’s like to work with us at Sport Wales please watch the video on our careers page.

Language skills (bilingualism & multilingualism) are desirable characteristics across all roles within Sport Wales. We are passionate about promoting the use of Welsh language and, as part of our development programme, give everyone the opportunity to learn welsh if they wish to do so, offering learning programmes from beginner right through to fluent.

The majority of Sport Wales colleagues are currently working remotely due to Covid-19 restrictions. When restrictions are lifted, Sport Wales will embrace a blended approach to work, where you will be able to split your time between the office in one of our three locations (Cardiff, Caernarfon or Deeside) and home to best suit your personal circumstances.

This role will also involve regular travel throughout Wales.

How you’ll contribute

This is a new and exciting opportunity to play a key role within the Sport Intelligence and Service Development Directorate. Working collaboratively across Sport Wales you will be part of the Service and Partner Development Team.

Led by insight the purpose of the role is to deliver innovative solutions to meet partner needs and embed a culture of customer experience excellence within Sport Wales.

The role will be crucial in:

- Supporting partners with their challenges and opportunities by exploring them and designing, developing and deploying solutions that add value.
- Leading and supporting an approach to embed a customer experience mindset to ensure that Sport Wales designs, develops and deploys projects and products that meet user needs.

Over time the areas of work will change in response to emerging Business Plan priorities and identified partner needs, but the purpose remains the same - to ensure that Sport Wales meets partner needs through having relevant and valued products and services and that we have a customer focused mindset in all that we do.