Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol

| £60,905 - £62,727 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Marketing

- Y RÔL -
Mae rôl Pennaeth Gweithredol Creadigrwydd a Dysgu Digidol sydd newydd ei chreu, yn gyfle cyffrous a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol ar gyfer tîm newydd ei ffurfio ar draws tri maes penodol o fewn yr Uned Creadigrwydd a Dysgu Digidol:

• Dysgu Digidol - Arwain ar Addysgeg Ddigidol, gan ddatblygu a chyflwyno cynnwys dysgu digidol blaenllaw a defnyddio technoleg yn effeithiol ar gyfer asesu dysgu gan fyfyrwyr, gwahaniaethu dulliau cyflwyno a darparu profiadau dysgu digidol trwyadl, perthnasol a diddorol ar gyfer ein dysgwyr.
• Dylunio ac Argraffu - Arwain ar Ddylunio i gefnogi gofynion dysgu, marchnata a chyfathrebu. Mae adnoddau’n cynnwys Dylunwyr Graffig, Gwasanaethau Argraffu, Cynhyrchu Fideo, Ffotograffiaeth ac Effeithiau Gweledol
• Datblygu’r We - Arwain tîm datblygu’r We, gan fod yn gyfrifol am reoli gwefannau’r brifysgol a’r seilwaith sy’n eu cynnal, a bod yn gyfrifol am ddiffinio strategaeth y wefan a darparu gwefan flaenllaw ar gyfer y sefydliad

Bydd y deiliad swydd yn gweithio’n agos â chydweithwyr Gwasanaethau Digidol, unedau gwasanaethau proffesiynol a’r gymuned Academaidd ar draws y Brifysgol i sefydlu seilwaith priodol i gefnogi anghenion busnes y sefydliad. Ar ôl newidiadau strwythurol diweddar, bydd gofyniad hefyd i sefydlu prosesau llywodraethu effeithiol, yn ogystal â datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol allweddol, cyrff llywodraeth a sefydliadau partner fel rhan o’r rôl.

Bydd y rôl yn hyrwyddo ac yn arwain datblygiad parhaus dysgu digidol o fewn y Brifysgol, yn ogystal â’r adnoddau creadigol o fewn yr uned, gan hwyluso dulliau newydd ar gyfer creadigrwydd a dysgu digidol o fewn y sefydliad, a gwneud defnydd o’r tîm newydd ei greu i ddatblygu cynnwys digidol creadigol blaenllaw ar gyfer gofynion dysgu a marchnata.

Bydd y rôl yn aelod allweddol o uwch dîm rheoli Gwasanaethau Digidol a chaiff gyfle i arloesi gyda dulliau gwreiddiol a darparu arweinyddiaeth effeithiol yng nghyswllt creadigrwydd digidol.
Bydd y rôl hon yn addas ar gyfer arweinydd creadigol brwdfrydig, uchelgeisiol a chadarn sy’n dymuno gweithio ar flaen y gad ym maes Addysg Uwch.

Dylech fod yn barod i gymryd rhan mewn gwaith ar-lein ac o bell yn y tymor byr, oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ond dylech hefyd fod yn barod i weithio o’r campws yn y dyfodol agos, naill ai yng Nghaerfyrddin neu Abertawe os bydd cyfyngiadau lleol yn cadarnhau.

- YR UNIGOLYN -
- Byddwch wedi cael addysg at lefel gradd neu brofiad cyfwerth mewn rôl gysylltiedig;
- Bydd gennych brofiad sylweddol o ran arwain a rheoli timau dysgu digidol neu greadigol - gan ddatblygu pobl, meithrin doniau a rheoli adnoddau graddiadwy;
- Bydd gennych dystiolaeth o brofiad rheoli o fewn rôl uwch, gan gynnwys rheoli newid, cynllunio strategol a phrosesau llywodraethu;
- Byddwch yn arddangos meddwl dadansoddol a chreadigol: â sgiliau dadansoddi cadarn gan gynnwys cynllunio senarios, datrys problemau a gwneud penderfyniadau;
- Byddwch yn alluog iawn o ran cynllunio llwyth gwaith, trefnu academaidd, blaenoriaethu a monitro;
- Byddwch yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel ac mewn amrywiaeth o ddulliau;
- Bydd gennych y gallu i wneud penderfyniadau a gweithio dan bwysau, o ran darparu a chefnogi gwasanaethau hanfodol;
- Rydych yn gallu gweithio dan eich menter eich hun er mwyn rhagweld problemau a bod yn rhagweithiol o ran dynodi atebion a’u darparu.

- RHAGOR O WYBODAETH -
Darllenwch y Disgrifiad Swydd am fanylion pellach, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb yr Unigolyn’. Gwnewch yn siwr bod eich cais yn nodi’n eglur sut rydych yn bodloni’r meini prawf hanfodol a ddisgrifir ym Manyleb yr Unigolyn. Derbynnir CVs fel gwybodaeth ychwanegol yn unig.

Ar gyfer ymholiadau cyfrinachol ynghylch y rôl a disgwyliadau, cysylltwch â James Cale, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol drwy j.cale@uwtsd.ac.uk

- SUT I WNEUD CAIS -
Cliciwch y botwm ‘Gwneud Cais Nawr’ er mwyn dechrau eich cais. Bydd pob tudalen o’ch cais yn cael ei harbed pan fyddwch yn gwasgu ‘Nesaf’ neu ‘Yn ôl’.

Sylwer: Bydd iaith eich gohebiaeth yn amodol ar yr iaith y gwnewch gais ynddi.

Dyddiad cau: Dydd Mercher 18 Awst 2021 am 23:59
Tynnu’r rhestr fer: 23 a 24 Awst 2021
Dyddiadau Cyfweld Arfaethedig: 2 a 3 Medi 2021