Arbenigwr Cymorth Dysgu (Cymraeg yn Hanfodol)

| £24.77 yr awr

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Education & Training

Arbenigwr Cymorth Dysgu (Cymraeg yn Hanfodol)
Campws Abertawe, Caerfyrddin, a/neu Llambed (gweithio hybrid a theithio i leoliadau eraill yn ôl yr angen)

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod) yn brifysgol â ffocws ar gyflogaeth, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Rydym yn cynnig addysgu arloesol, offer o’r radd flaenaf a chymorth ardderchog ar draws amrywiaeth eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.

Daeth Y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am Gyrsiau a Darlithwyr yng Ngwobrau Whatuni Student Choice 2020.

Bellach rydym yn chwilio am Arbenigwr Cymorth Dysgu i ymuno â’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn Abertawe, Caerfyrddin a/neu Llambed ar sail barhaol.

- Y RÔL -

Fel Arbenigwr Cymorth Dysgu, byddwch yn darparu cymorth dysgu arbenigol o ansawdd uchel ar gyfer myfyrwyr â Gwahaniaethau Dysgu Penodol ac anableddau eraill.

Gan adrodd wrth y Rheolwr Cymorth Dysgu, byddwch yn darparu cymorth llinell gyntaf a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau sy’n darparu cymorth pellach. Byddwch yn cynnig gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol ac emosiynol, gan ddefnyddio rhychwant o strategaethau amlsynnwyr er mwyn hwyluso dysgu annibynnol a chefnogi myfyrwyr i ddynodi eu dewisiadau a’u cryfderau dysgu unigol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu Contractau Dysgu Unigol gyda myfyrwyr a darparu amgylchedd dysgu arbenigol.

Gan weithio’n gydweithredol â Rheolwyr Cymorth Dysgu, Cynghorwyr Anabledd a chydweithwyr eraill o bob rhan o’r Brifysgol, byddwch yn sicrhau y darperir cymorth priodol ar gyfer myfyrwyr anabl er mwyn cyfoethogi eu profiad myfyrwyr.

- AMDANOCH CHI -

Er mwyn cael eich ystyried yn Arbenigwr Cymorth Dysgu, bydd angen y canlynol arnoch:

- Tystiolaeth o brofiad cyfredol ym maes cymorth i fyfyrwyr anabl
- Profiad o ddehongli dogfennaeth a rheoliadau
- Sgiliau TG rhagorol i sicrhau cadw cofnodion yn gywir gyda phrofiad o ddefnyddio e-adnoddau
- Dangos parch tuag at amrywiaeth ynghyd ag ymwybyddiaeth o faterion ffiniau a materion moesegol a phroffesiynol eraill
- Y gallu i siarad ac ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig)
- Cymhwyster addysgu
- Aelodaeth o gorff proffesiynol ar gyfer cynorthwywyr anfeddygol a gyllidir drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

- BUDDION -

Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys y canlynol:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn galw’r rôl hon yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu, Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Arbenigol, neu Swyddog Cymorth Myfyrwyr.

Sylwer, am y rôl hon bydd angen gwiriad ‘Manwl gyda’r Rhestr Wahardd ar gyfer Oedolion’ gan y DBS.

Felly, os ydych yn chwilio am eich her nesaf fel Arbenigwr Cymorth Dysgu, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.

Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, a’ch Datganiad Ategol yn arbennig.

Dyddiad cau: 28 Hydref 2021, 11:59pm