Uwch Swyddog Marchnata a Gwerthiant

| £31,406 - £35,326 per annum

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Marketing

Uwch Swyddog Marchnata a Gwerthiant
Caerfyrddin
£31,406- £35,326 y flwyddyn

Ystyrir ceisiadau ar gyfer swyddi llawn-amser, rhan-amser neu secondiad

- AMDANOM NI -

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn cynnig cyfle cyffrous i gyfathrebydd ardderchog ymuno â thîm creadigol a blaengar sy’n creu adnoddau addysgol ar gyfer amrywiol gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolyn weithio’n benodol ar hyrwyddo delwedd a chynnyrch Peniarth a Rhagoriaith gan farchnata prosiectau a hybu gwerthiant adnoddau sy’n gysylltiedig â brandiau Peniarth a Rhagoriaith.

Sefydlwyd Peniarth fel canolfan gyhoeddi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2009 gyda’r bwriad o gyhoeddi adnoddau addysgol dwyieithog o safon yng Nghymru. Canolfan Peniarth oedd ei henw gwreiddiol ond newidiwyd yr enw hwnnw yn sgil ymarfer ail-frandio a ddigwyddodd adeg dathliadau’r deng-mlwyddiant.
Yn ystod y degawd diwethaf, mae Peniarth wedi ennill ei phlwyf fel un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru gan gyhoeddi dros 300 o deitlau print - yn llyfrau plant ac yn adnoddau addysg - yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, gwe a rhyngweithiol ac apiau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Sefydlwyd Rhagoriaith fel brand oddi fewn i Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn 2019 ac mae hithau hefyd wedi ennill ei phlwyf fel un o brif asiantaethau hyfforddiant iaith Cymru ym maes addysg. Mae’n un o dair Canolfan sy’n darparu cyrsiau’r Cynllun Sabothol i athrawon ac fel rhan o’r gwaith hwnnw, mae’n gyfrifol am gydlynu gweithgarwch marchnata a chyfryngau cymdeithasol y Cynllun yn genedlaethol.

- Y RÔL -
Prif ddyletswydd y rôl fydd marchnata a hyrwyddo cynnyrch Peniarth ar draws Cymru gyda’r nod o gynyddu gwerthiant. Ystyrir y bydd y swydd hon yn adeiladu ar y llwyddiant sydd wedi dod i ran brand Peniarth hyd yma gan gyfrannu’n adeiladol at ei symud i lefel uwch o lwyddiant cenedlaethol a hynny’n seiliedig ar godi ymwybyddiaeth o gynnyrch a chynyddu gwerthiant.
Cynigia’r swydd hon gyfle cyffrous i unigolyn ddefnyddio’i sgiliau er mwyn hyrwyddo delwedd a chynnal presenoldeb byrlymus a byw ar eu llwyfannau rhwydweithio cymdeithasol.
Bydd cydlynu presenoldeb Peniarth a Rhagoriaith mewn gwyliau cenedlaethol megis Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd ymhlith y cyfrifoldebau craidd.
Bydd rheoli rhyngweithio rhwng partneriaid ac unigolion, yn fewnol ac yn allanol, yn rhan allweddol o’r swydd. Gall hyn olygu ymwneud o ddydd i ddydd gyda chleientiaid allweddol, gan gynnwys rheolaeth effeithiol ar agweddau adrodd ar gynnydd rhwng partïon. Bydd deiliad y swydd felly’n gallu cyfathrebu prosesau gweithredu ac adrodd ar brosiectau arbenigol y mae sawl haen wahanol yn perthyn iddynt. Mae’r rôl yn un allweddol i lwyddiant prosiectau unigol a byddai profiad perthnasol o reoli ac ymwneud â chydlynu prosiect a meithrin perthynas fonitro yn fanteisiol iawn.
Rhydd y swydd hon gyfle arbennig hefyd i unigolyn sy’n awyddus i ddefnyddio neu ddatblygu sgiliau rhaglennu ac animeiddio yng nghyd-destun marchnata cynnyrch.
Yn anad dim arall, bydd deiliad y swydd yn frwdfrydig ac yn gyfathrebydd ardderchog sy’n meddu ar y gallu i esbonio a dwyn perswâd ar eraill i gredu ac i fuddsoddi yng ngwerthoedd cynhenid Peniarth a Rhagoriaith a’u cynnyrch.


- AMDANOCH CHI -
Disgwylir i chi allu gweithio’n effeithiol mewn cyd-destun cwbl ddwyieithog gyda chymhwysedd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn gywir.
Bydd hefyd arnoch angen:
1) Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol

2) Profiad o farchnata a chyfathrebu gydag ystod o gynulleidfaoedd er mwyn hyrwyddo menter neu fusnes penodol

3) Profiad o reoli perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

4) Lefel uchel o broffesiynoldeb ac ymrwymiad i sicrhau lefel rhagorol o wasanaeth i gleientiaid

5) Profiad o gasglu data a defnyddio meddalwedd basdata/taenlenni

6) Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a phlatfformau digidol) a phrofiad o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol.



- BUDDION -
- Yr hawl i wyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gwyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith

Felly, os ydych yn chwilio am eich her nesaf fel Uwch Swyddog Marchnata a Gwerthiant, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.

Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, a’ch Datganiad Ategol yn arbennig.

Dyddiad cau: 8 Rhagfyr 2021, 11:59pm