Uwch Swyddog Prosiectau: Cytundeb Blwyddyn

| £31,406 - £35,326 per annum

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Education & Training

Uwch Swyddog Prosiectau
Caerfyrddin
£31,406- £35,326 y flwyddyn
Cyfnod Penodol am flwyddyn

Ystyrir ceisiadau ar gyfer swyddi llawn-amser, rhan-amser neu secondiad

- AMDANOM NI -

Mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn cynnig cyfle cyffrous i unigolyn ymuno â thîm creadigol a blaengar sy’n creu adnoddau addysgol ar gyfer amrywiol gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i unigolyn weithio’n benodol ar reoli prosiectau sy’n gysylltiedig â brandiau Peniarth a Rhagoriaith a chyfrannu at y gwaith o greu adnoddau addysgol at amrywiol gynulleidfaoedd.

Sefydlwyd Peniarth fel canolfan gyhoeddi Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2009 gyda’r bwriad o gyhoeddi adnoddau addysgol dwyieithog o safon yng Nghymru. Canolfan Peniarth oedd ei henw gwreiddiol ond newidiwyd yr enw hwnnw yn sgil ymarfer ail-frandio a ddigwyddodd adeg dathliadau’r deng-mlwyddiant.
Yn ystod y deuddeg mlynedd diwethaf, mae Peniarth wedi ennill ei phlwyf fel un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru gan gyhoeddi dros 300 o deitlau print - yn llyfrau plant ac yn adnoddau addysg - yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, gwe a rhyngweithiol ac apiau.

- Y RÔL -
Fel Uwch Swyddog Prosiectau byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar y gwaith o reoli prosiectau ym Mheniarth gan gynnwys y camau allwedddol o:
• adnabod cyfleoedd datblygu prosiect posibl a chreu achos busnes ar eu cyfer
• cyfrannu at y gwaith o gynnig yn ffurfiol am dendrau cystadleuol
• sefydlu, meithrin a rheoli perthynas ardderchog gyda chleientiaid allweddol fel Llywodraeth Cymru, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
• rheoli llif gwaith ac amserlen cyfranwyr allweddol pob prosiect boed y rheiny’n staff mewnol neu’n weithwyr llawrydd, annibynnol
• sicrhau ansawdd y gwaith a’i addasrwydd ar gyfer y cynulleidfaoedd targed
• hwyluso’r gwaith o lywio’r prosiectau i’w diwyg terfynol boed hynny’n adnodd print neu’n adnodd digidol.
Bydd rheoli rhyngweithio rhwng partneriaid ac unigolion sy’n cyfrannu at brosiectau yn unigol yn rhan allweddol o’r gwaith. Gall hyn olygu ymwneud o ddydd i ddydd gyda chleientiaid allweddol i Beniarth megis Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rheolaeth effeithiol ar agweddau adrodd ar gynnydd rhwng partïon.
Bydd yr Uwch Swyddog Prosiect yn gweithio’n agos o ddydd i ddydd gyda thîm rheoli Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol gan gynnwys unigolion sy’n gweithio ar brosiectau sy’n cael eu datblygu dan frand Rhagoriaith ym maes hyfforddiant iaith. Bydd angen mynychu cyfarfodydd yn ymwneud â phrosiectau yn ôl y galw a sefydlu dull o reoli cynnydd beunyddiol prosiectau unigol gan gynnwys cynnal bas data, ffeilio dogfennau allweddol a chyrchu hawlfraint lle bo angen.

- AMDANOCH CHI -
Disgwylir i chi allu gweithio’n effeithiol mewn cyd-destun cwbl ddwyieithog gyda chymhwysedd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i lefel dda.
Bydd hefyd arnoch angen:
• Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfatebol
• Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau creadigol
• Profiad o reoli perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol
• Profiad o gasglu data a defnyddio meddalwedd basdata/taenlenni
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel
• Y gallu i ymgymryd â thasgau’n rhagweithiol gan weithredu’n annibynnol heb oruchwyliaeth
• Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol
• Y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn
• Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol).



- BUDDION -
- Yr hawl i wyliau blynyddol yw 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gwyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau
Mae ein gweithwyr yn cael mynediad i becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog ac amodau da; fel cyflogwr cyflog byw achrededig rydym yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd sy’n darparu gweithio hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Cefnogaeth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Disgowntiau i staff ar ystod o gynnyrch a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith

Felly, os ydych yn chwilio am eich her nesaf fel Uwch Swyddog Prosiectau, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir.

Sylwer, nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, caiff eich cais ei asesu ar sail eich atebion i gwestiynau’r cais yn unig, a’ch Datganiad Ategol yn arbennig.

Dyddiad cau: 8 Ragfyr 2021, 11:59pm