Castell Caeriw Cynorthwyydd Arlwyo

Tenby |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Castell Caeriw Cynorthwyydd Arlwyo

Chwilio am swydd y gallwch chi deimlo'n falch ohoni? Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Nghastell Caeriw i Cynorthwyydd Arlwyo ymuno tîm brwdfrydig o unigolion sy’n ymroddedig i gyflwyno profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr mewn lleoliad ysblennydd.

Mae i Gastell Caeriw, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, hanes hudolus sy’n rhychwantu dros 2000 o flynyddoedd a mwy. Enillodd y castell wobr yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Benfro 2018 yn y categori Atyniad Gorau i Ymwelwyr. Agorodd Ystafell De Nest yn y Castell yn 2018; mae'n ystafell olau, glyd a modern sy'n gweini amrywiaeth o fwyd, o ginio ysgafn, cacennau cartref a the a choffi.
Ynglyn â'r swydd:
• Sicrhau bod y cwsmer yn cael profiad gwych
• Cymryd archebion a gweini
• Cynnal safonau uchel o lanweithdra
• Paratoi bwyd a diodydd
• Gwirio’r cyflenwadau a dderbynnir, cylchdroi stoc, storio bwyd yn ddiogel
• Clirio, golchi llestri, glanhau

Ynglyn â'r ymgeisydd:
• Brwdfrydig, gwych gyda’r tîm, dibynadwy, gyfeillgar ac yn groesawgar
• Profiad o weithio mewn caffi neu amgylchedd arlwyo
• Yn barod i weithio ar rota saith diwrnod, gan gynnwys gwyliau banc a gyda’r hwyr bob hyn a hyn.

Disgrifiad Llawn o’r Swydd ar gael drwy lawrlwytho.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Cefnogir ymgeiswyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg

Cyflog:
£9.90 yr awr / Amrywiol swyddi tymhorol rhan-amser ar gael
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 23:08:22
Rydym yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.