Castell Caeriw – Cynorthwyydd Tymhorol Gwasanaethau Ymwelwyr

Tenby |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Castell Caeriw - Cynorthwyydd Tymhorol Gwasanaethau Ymwelwyr
30 awr yr wythnos dros 5 diwrnod o ganol mis Gorffennaf tan ddechrau mis Medi.
£9.90 yr awr (i gynnwys lwfans byw atodol)

Mae i Gastell Caeriw, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, hanes hudolus sy’n rhychwantu dros 2,000 o flynyddoedd a mwy, ac mae wedi ennill Gwobr Twristiaeth Sir Benfro 2018 am yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr. Mewn lleoliad trawiadol yn edrych dros 23 erw llyn y felin lanw, mae’r castell yn un o’r mwyaf amrywiol yn bensaernïol yng Nghymru.
Ynglyn â’r swydd:
• Croesawu ymwelwyr i safle Caeriw.
• Ymdrin ag ymholiadau a chwestiynau gan ymwelwyr yn bersonol, dros y ffôn ac ar yr e-bost.
• Gwerthu nwyddau manwerthu, gan sicrhau bod ardaloedd y siop yn gymen ac yn cael eu hailgyflenwi.
• Cymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno'r rhaglen ddigwyddiadau, gan gynnwys gweithgareddau i'r teulu a digwyddiadau gyda'r hwyr.
• Gweithio mewn adrannau eraill ar y safle yn ôl yr angen e.e. arlwyo.


Ynglyn â chi:
• Profiad mewn busnes manwerthu.
• Yn frwd dros hanes y safle a'r gwaith dan sylw ac awydd i feithrin gwell dealltwriaeth o'r safle.
• Agwedd hyblyg at oriau gwaith gan gynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus a rhai nosweithiau
• Sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Cefnogir ymgeiswyr i ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad Swydd llawn ar gael drwy lawrlwytho.

Cyflog a Buddion;
£9.90 yr awr sy’n cynnwys lwfans byw atodol.
30 awr yr wythnos, i’w gweithio dros 5 diwrnod ar rota 7 diwrnod o ganol mis Gorffennaf tan ddechrau mis Medi.
Lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â gwyliau cyhoeddus.
Cynllun pensiwn llywodraeth leol.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad cau: 01/07/22
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.