Golygydd Gwefannau

| £22,847 - £26,341 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Marketing

Golygydd Gwefannau
Y prif gampws fydd Abertawe neu Gaerfyrddin, ond dylid bod yn gallu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill yn ôl yr angen, a bod yn barod i wneud hynny
£22,847-£26,341 y flwyddyn

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am ddau Olygydd Gwefannau i ymuno â'n campws yng Nghaerfyrddin neu Abertawe yn llawn-amser am gyfnod penodol o 12 mis, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Yn achos un o'r swyddi, bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol. Yn achos yr ail swydd, bydd hyn yn ddymunol.

- Y RÔL -
Mae'r Brifysgol wrthi'n cynnal adolygiad o'i gwefan bresennol, a bydd yn datblygu gwefan newydd a fydd yn mynd yn fyw yn 2023; bydd y rolau hyn yn rhan annatod o’r prosiect cyffrous hwn ac yn helpu i lunio brand PCYDDS wrth i symud ymlaen.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.

- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl Golygydd Gwefannau, bydd angen i chi:
- Feddu ar radd PCYDDS
- Bodloni’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cymryd rhan yn y prosiect (a restrir yn y Swydd-ddisgrifiad
- Meddu ar sgiliau ysgrifennu a golygu rhagorol, ynghyd â'r gallu i roi sylw craff i fanylion
- Meddu ar ffordd greadigol o feddwl, ynghyd â'r gallu i ddatrys problemau
- Meddu ar sgiliau trefnu da, ynghyd â'r gallu i reoli tasgau lluosog ar yr un pryd
- Gweithio'n dda mewn tîm a meddu ar agwedd gadarnhaol
- Meddu ar y gallu i gyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon uchel
- Meddu ar y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Meddu ar ddealltwriaeth o farchnata digidol

Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Profiad o ddiweddaru gwefannau gan ddefnyddio llwyfan CMS
- Profiad gyda meddalwedd megis InDesign, Photoshop, ac ati
- Dealltwriaeth o optimeiddio peiriannau chwilio (SEO)
- Gwybodaeth am offer dadansoddi gwefannau, e.e. Google Analytics


- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Golygydd Gwefannau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 11 Gorffennaf 2022, 11:59pm