Arweinydd Gweithgareddau Tymhorol - Castell Caeriw.

Tenby |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Castell Caeriw - Arweinydd Gweithgareddau Tymhorol
30 awr yr wythnos dros 5 diwrnod o ganol mis Gorffennaf tan ddechrau mis Medi.
£9.90 yr awr (i gynnwys lwfans byw atodol)

Mae i Gastell Caeriw, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, hanes hudolus sy’n rhychwantu dros 2,000 o flynyddoedd a mwy, ac mae wedi ennill Gwobr Twristiaeth Sir Benfro 2018 am yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr. Mewn lleoliad trawiadol yn edrych dros 23 erw llyn y felin lanw, mae’r castell yn un o’r mwyaf amrywiol yn bensaernïol yng Nghymru.
Ynglyn â’r swydd:
• Arwain rhaglen o weithgareddau’r Castell o ddydd i ddydd dros yr haf gan gynnwys sesiynau Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth, Ysgol Marchogion, sesiynau gwaith crefft, a sgyrsiau am hanesion annymunol.
• Sicrhau bod y sesiynau'n hwyl, yn egnïol ac yn ennyn brwdfrydedd plant a theuluoedd.
• Gosod yr offer bob bore a'i roi i gadw bob prynhawn, gan ei gadw’n drefnus bob amser.
• Cadw at weithdrefnau ariannol y cytunwyd arnynt ar gyfer y safle gan gynnwys trin arian a chadw cofnodion.
• Bod yn gyfrifol am hyrwyddo a diogelu lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed yr ydych yn gyfrifol amdanynt.
• Gweithio mewn adrannau eraill ar y safle yn ôl yr angen megis derbyniadau, arlwyo.
• Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n rhesymol gofyn iddynt gael eu cyflawni.


Ynglyn â chi:
• Yn angerddol am ennyn diddordeb plant mewn dysgu drwy weithgareddau.
• Ymagwedd hyblyg at oriau gwaith gan gynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus ac ambell fin nos.
• Sgiliau creadigol/ diddordeb mewn celf a chrefft.
• Gwybodaeth/diddordeb mewn hanes.
• Sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Cefnogir ymgeiswyr i ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad Swydd llawn ar gael drwy lawrlwytho.
Bydd angen gwiriad DBS ar ddeiliad y swydd.

Cyflog a Buddion;
£9.90 yr awr sy’n cynnwys lwfans byw atodol.
30 awr yr wythnos, i’w gweithio dros 5 diwrnod o ganol mis Gorffennaf tan ddechrau mis Medi.
Lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau (pro rata) ynghyd â gwyliau cyhoeddus.
Cynllun pensiwn llywodraeth leol.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.


Dyddiad cau: 01/07/22
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.