Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a Gweinyddol neu Hyfforddai AD

Pembroke Dock |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a Gweinyddol neu Hyfforddai AD - 37 awr yr wythnos

Rydym yn chwilio am naill ai Swyddog Adnoddau Dynol a Gweinyddol profiadol fydd yn cynorthwyo i gefnogi ein staff yn y meysydd iechyd a diogelwch a hyfforddiant, neu rhywun i ymuno â ni fel swyddog dan hyfforddiant sy'n awyddus i symud ymlaen â'i yrfa yn y maes AD. Bydd ein rôl hyfforddai yn cynnig hyfforddiant a datblygiad wedi'i ariannu.
Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud ag AD gan weithwyr a rheolwyr ar bob mater Iechyd a Diogelwch a Hyfforddiant.
Byddwch yn gyfrifol am ystod o dasgau ymgynghorol a gweinyddol AD a byddwch yn cyfrannu at wneud yr Awdurdod yn sefydliad dysgu ac yn lle mwy diogel i weithio.
Os ydych chi'n angerddol am yrfa mewn AD ac yn hynod effeithlon, byddem wrth ein bodd yn cael gair â chi. Bydd ein hymgeisydd delfrydol naill ai â phrofiad o weithdrefnau AD a'r gallu i ddod i ben ag amrywiol dasgau mewn modd amserol, ac yn barod i ddysgu pethau newydd bob amser.
Byddwch yn ymwneud â chlustnodi anghenion hyfforddi a datblygu, yn helpu i ddylunio ac ehangu ein harlwy hyfforddi a datblygu, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ein rhaglen sefydlu ar gyfer staff newydd, ac yn creu ystod o hyfforddiant drwy ddefnyddio dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein.
Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu fframwaith cadarn ar gyfer iechyd a diogelwch ar draws yr Awdurdod, gan sicrhau ein bod yn gyflogwr rhagorol.
Ewch i'n gwefan i gael copi o'r disgrifiad rôl a dywedwch wrthym pam mai chi yw'r person gorau ar gyfer y rôl hon.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Cyflog a Buddion:
Cynigir y swydd hon naill ai fel swydd dan hyfforddiant neu fel Swyddog Adnoddau Dynol profiadol. Cyflog sylfaenol hyfforddai yw o £19,098 y flwyddyn; i Swyddog AD profiadol y cyflog sylfaenol yw £23,023 i £24,920 y flwyddyn; 26 man lleiaf o wyliau blynyddol yn cod i 31 diwrnod, a gwyliau cyhoeddus; Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol; a threfniadau gweithio oriau hyblyg.
Lleolir y swydd yn ein Pencadlys yn Noc Penfro; mae'r swyddfa yn 8 munud o gerdded o'r orsaf drenau agosaf. Mae gennym gyfleusterau parcio beiciau diogel a digon o le i barcio ceir. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun ceir yr Awdurdod ar gyfer ymweliadau safle.
Dyddiad Cau: 12:07:22

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.