Darlithydd Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiect

| £36,382-£42,149 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Education & Training

Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau

Campws Caerfyrddin neu Abertawe
£36,382-£42,149 y flwyddyn

- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym 'nawr yn chwilio am Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau i ymuno â ni ar gampws Abertawe neu Caerfyrddin, a hynny'n llawn-amser am amser penodol o flwyddyn.

- Y RÔL -
Prif ffocws y swydd hon fydd cyfrannu at holl weithgarwch iaith Gymraeg y Ganolfan o ran ei phrosiectau iaith a’i chyfrifoldebau addysgu. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â rhaglen o waith addysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ynghyd â chydlynu prosiectau ymchwil a chreu adnoddau addysgol sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac addysg Gymraeg a dwyieithog.
Bydd y sawl a apwyntir i’r swydd hon yn gyfrifol am gyfrannu at addysgu’r amrywiol gyrsiau hyn a bydd gofyn iddi/iddo hefyd gynorthwyo yn y broses o lunio adnoddau dysgu perthnasol a ddefnyddir fel rhan o’r broses dysgu ac addysgu. Disgwylir i’r deilydd hefyd gefnogi ei r(h)eolydd llinell drwy fynychu pwyllgorau cenedlaethol perthnasol sy’n ymwneud â rheoli’r rhaglenni iaith.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn meddu ar sgiliau addysgu’r Gymraeg ar bob lefel ac ar sgiliau gweinyddu da.

- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, bydd arnoch angen y canlynol:

- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol
- Profiad o addysgu Cymraeg o fewn y sector addysg
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau lefel uchel
- Ymwybyddiaeth o ddatblygiadau diweddar mewn addysg
- Profiad o awduro deunyddiau addysgol, e.e. cyrsiau dysgu iaith neu adnoddau trawsgwricwlaidd
- Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau sicrhau ansawdd
- Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd.
- Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau, lliniaru risg yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol
- Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol)
- Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i ar lefel hyfedredd
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Gradd uwch
- Profiad blaenorol o gydlynu, gweithredu a monitro gweithgarwch o fewn cyd-destun AU.
- Profiad blaenorol o weithio gydag ysgolion ac asiantaethau allanol.

- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Darlithydd Cyrsiau Iaith Gymraeg a Chydlynydd Prosiectau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 22 Gorffennaf 2022, 11:59pm