Dadansoddwr Data

|

Employer: Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales
Sector/Specialism: Public Sector

Dadansoddwr Data
Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid)

Y Sefydliad

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Rydym nawr yn chwilio am Ddadansoddwr Data i ymuno â'n Tîm Ymchwil, Data a Gwybodaeth ar sail barhaol, hyblyg.

Y Manteision

- Cyflog o £31,210 - £32,998 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Cynllun pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Y Rôl

Fel Dadansoddwr Data, byddwch yn datblygu ac yn gweithredu ein prosesau casglu data gweithlu.

Wrth adolygu’n feirniadol ein dulliau casglu data a’n canlyniadau, byddwch yn cyflwyno’ch canfyddiadau’n glir i lywio ein datblygiad mewnol a nodi unrhyw feysydd sy’n peri pryder neu gyfleoedd i wella.

Byddwch yn sicrhau casglu data cywir o ansawdd uchel ac yn cynnal safonau a phrosesau ar gyfer rheoli a dadansoddi data.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Cefnogi cydweithwyr a phwyntiau cyswllt allanol i ddeall y data
- Gweithio gyda'n Uwch Swyddog Data i grynhoi a chyflwyno'n weledol ganlyniadau dadansoddi data

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried fel Dadansoddwr Data, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio ym maes dadansoddi data
- Profiad o gynghori eraill ar brosesau rheoli a dadansoddi data
- Profiad o gyfathrebu a lledaenu canfyddiadau o ddadansoddi data
- Profiad o ddefnyddio pecynnau fel Power BI i ddatblygu allbynnau creadigol
- Gwybodaeth am fethodolegau ystadegol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gofynion deddfwriaethol ynghylch diogelu data a chasglu a defnyddio data
- Sgiliau meddalwedd MS Office uwch
- Sgiliau dadansoddi rhagorol
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 1 Rhagfyr 2022.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Ddadansoddwr Mewnwelediadau Digidol, Dadansoddwr Cudd-wybodaeth Busnes, Dadansoddwr Data Ystadegol, Dadansoddwr Ymchwil, neu Ddadansoddwr Data Effaith.

Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn camu i yrfa ddeniadol fel Dadansoddwr Data, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.