Swyddog Prosiect Awyr Dywyll

|

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Swyddog Prosiect Awyr Dywyll
3 diwrnod yr wythnos, cyfnod penodol tan Ionawr 2025

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, swydd ar gyfer Swyddog Prosiect Awyr Dywyll i helpu i wella ansawdd awyr y nos ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r rôl yn addas ar gyfer rhywun sy’n gallu:
• Cychwyn a gweithredu prosiectau i leihau llygredd golau mewn safleoedd allweddol.
• Ymgysylltu â chontractwyr i ddylunio a/neu gyflawni prosiectau goleuo allweddol.
• Sicrhau bod prosiectau goleuo yn bodloni gofynion y cyrff cyllido, a monitro gwariant y gyllideb a chynnydd y gwaith.
• Bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar faterion Awyr Dywyll.
• Datblygu, cydlynu a chefnogi rhaglen fonitro ar gyfer ansawdd yr awyr i gefnogi’r gwaith o ddatblygu polisi a chanllawiau cynllunio.

Bydd angen y canlynol ar yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn maes perthnasol neu'n gallu dangos profiad cyfatebol.
• Bod yn gyfforddus yn sgwrsio yn Gymraeg (B1 Canolradd).
• Trwydded yrru lawn.
• Y gallu i gynnal ymweliadau safle gyda'r nos.
• Gwybodaeth am dechnegau ar gyfer cynllunio, cyflwyno a monitro rhaglenni gwaith.
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, a'r gallu i gyfleu syniadau neu wybodaeth gymhleth.
• Y gallu i gynllunio a threfnu gwaith eich hun a gwaith eraill.

Disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.
Bydd angen gwiriad DBS ar ddeiliad y swydd.
Cyflog a Buddion:
Cyflog sylfaenol o £30,151 pro rata, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau yn codi i 31 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn llywodraeth leol hael, trefniadau gweithio hyblyg gwych a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Dyddiad Cau: 05.12.2022. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.

Ymdrinnir â'r rôl hon gan weithdrefnau Recriwtio Mwy Diogel yr Awdurdod, ac felly mae gwiriadau DBS yn orfodol.