Uwch Arweinydd Polisi ac Ymgysylltu / Senior Policy and Engagement Lead

Cardiff | £40,100 - £41,707.73 per annum

Employer: Sport Wales
Sector/Specialism: Public Sector

Uwch Arweinydd Polisi ac Ymgysylltu
Adran - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus
Cyflog - Graddfa 8 £40,100 - £41,707.73
Oriau Gwaith - 37 awr (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU

Mae hon yn rôl gyffrous yn y Swyddogaeth Polisi a Dirnadaeth yn Chwaraeon Cymru sy’n ceisio datblygu, adlewyrchu a hybu polisi chwaraeon yn y sector chwaraeon a thu hwnt. Gan weithio gyda phartneriaid newydd ar draws gwahanol feysydd polisi ac ar wahanol lefelau gwleidyddol, bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol mewn codi proffil a sicrhau cydnabyddiaeth i system chwaraeon gynhwysol yng Nghymru.

Byddwch yn datblygu perthnasoedd ar draws y sefydliad, gan ddeall sut gall chwaraeon gyfrannu at yr amcanion polisi ehangach. Byddwch hefyd yn arwain ar ddatblygu perthnasoedd gyda sefydliadau ledled Cymru sy’n cefnogi dull Chwaraeon Cymru o weithredu i wneud chwaraeon yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Byddwch yn aelod o’r tîm dirnadaeth, polisi a materion cyhoeddus, gyda ffocws ar ddeall sut gall y byd chwaraeon ddylanwadu ar bolisi ar draws sawl portffolio, fel iechyd ac addysg, a chael ei ddylanwadu hefyd.

Byddwch yn datblygu perthnasoedd ar draws y sefydliad, gan ddeall sut gall chwaraeon gyfrannu at y persbectif polisi ehangach.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Fel aelod o’r tîm Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus byddwch yn gweithio ar draws sefydliad Chwaraeon Cymru i ddeall y dystiolaeth bolisi sy'n dod i'r amlwg sy'n deillio o ddirnadaeth, buddsoddiadau, rhaglenni a phartneriaid Chwaraeon Cymru.

Yn ogystal, byddwch yn datblygu perthnasoedd â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig y rhai sy'n gallu cael yr effaith orau ar yr agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Byddwch yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau’r Llywodraeth a byddwch yn gwella dull Chwaraeon Cymru o nid yn unig rannu gwybodaeth am waith y sector chwaraeon, ond o ran eiriol drosto mewn ffordd strategol a phwrpasol.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu trosi ymchwil, tystiolaeth a pholisi cymhleth a manwl yn sefyllfaoedd hawdd eu deall, gan feithrin perthnasoedd gydag amrywiaeth o wahanol randdeiliaid.

Bydd gennych brofiad o reoli ystod o amcanion gwaith, rhai yn aml gydag amserlenni heriol a chystadleuol.

Byddwch yn gallu creu amgylchedd gwaith da a phositif, a delio’n effeithiol gyda phroblemau a materion, gan gymell, annog a herio eich cydweithwyr.

Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi. I wneud cais am y rôl hon, dewiswch y botwm a ddangosir.

Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Senior Policy and Engagement Lead
Department - Insight, Policy, and Public Affairs
Salary - Grade 8 £40,100 - £41,707.73
Working Hours - 37 hours (consideration will be given to job sharing / reduced hours in line with our flexible working policy)

WHO WE ARE

Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. ?We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds.?We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.
We are a progressive employer that offers excellent employee benefits and promotes a healthy work life balance, offering a range of flexible approaches to support you.

HOW YOU’LL CONTRIBUTE

This is an exciting role within the Policy and Insight Function at Sport Wales which seeks to develop, reflect, and promote sport policy within the sport sector and beyond. Working with new and emerging partners, across different policy areas and at different political levels, this role will play a key part in building the profile and recognition of an inclusive sport system within Wales.

You will be a member of the Insight, Policy and Public Affairs team, focused on understanding the way policy across a range of portfolios, such as health and education, can influence, and be influenced by, sport.

You will develop relationships across the organisation, to understand the way sport can contribute to the wider policy objectives. You will also lead on the development of relationships with organisations across Wales who share in Sport Wales approach in making sport inclusive and accessible to everyone.

As part of the role, you will support the communication of Sport Wales’s work, reflecting what the organisation and its partners have done, has learnt, and plan to do, to maximize the way sport is utilised in a policy setting.

WHO YOU’LL WORK WITH

As a member of the Insight, Policy, and Public Affairs you will work right across the Sport Wales organisation to understand the emerging policy evidence emanating from Sport Wales insight, investments, programmes, and partners.

In addition, you will develop relationships with national and international organisations, particularly those best able to impact on the equality, diversity and inclusion agenda.

You will be a point of contact for government enquires and will enhance the Sport Wales approach to not only sharing information about the work of the sport sector, but in advocating for it in a strategic and purposeful way.

WHAT YOU’LL NEED
We are looking for candidates who can translate complex and detailed research, evidence and policy into easily understood positions, while building relationships with a range of different stakeholders.

You will have experience of managing a range of work objectives, some often with challenging and competing timescales.

You will have the ability to create a good and positive working environment, and deal effectively with issues and problems; motivating, encouraging and challenging your colleagues.

If you have the presence and personality to work in a high performing team as well as the passion and drive to succeed, then we would love to hear from you. To apply for this role please select the button shown.

This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.