Pennaeth Cyfathrebu / Head of Communications

Cardiff | £49,089 - £54,374 pro rata depending on experience (pay award pending)

Employer: Arts Council of Wales
Sector/Specialism: Marketing

Pennaeth Cyfathrebu

Tymor penodol hyd at 31 Hydref 2023

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cyflog: Gradd E - £49,089 - £54,375 pro rata yn ddibynnol ar brofiad (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym Mae Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Rydym yn agored i dderbyn ceisiadau gan unigolion a hoffai weithio ar sail hunangyflogedig. Os ydych yn bwriadu gwneud cais am y rôl ar sail hunangyflogedig, gwnewch eich bwriad yn glir yn eich cais. Bydd telerau'n cael eu trafod yn unol â hynny.

Am y rôl

Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o'r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae'r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy'n ddeniadol ac yn hygyrch.

Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig - yn y Gymraeg a’r Saesneg - sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae'r Pennaeth hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy'n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.

Amdanoch chi

Mae gennych gymhwyster perthnasol a/neu brofiad proffesiynol sylweddol o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a phrofiad o lunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu. Bydd gennych yr awdurdod personol i weithredu'n gredadwy ar lefel uchel mewn materion cyhoeddus ar gyfer corff cyhoeddus cenedlaethol, a'r hyblygrwydd i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a Saesneg. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a Saesneg - er mwyn cynnal perthnasoedd effeithiol ar lefelau uwch yn fewnol ac yn allanol - yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Sut i ymgeisio

Dewiswch y botwm ymgeisio a ddangosir i gyflwyno Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, megis nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf.

Dyddiad cau: 12:00 canol dydd ar ddydd Mawrth 28ain Chwefror 2023
Cyfweliadau: Dydd Mercher 22ain Mawrth 2023

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Head of Communications

Fixed term to 31 October 2023

Full time - 37 hours per week

Salary: Grade E - £49,089 - £54,374 pro rata depending on experience (pay award pending)

Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen. We are currently working in a hybrid way.

We are open to receiving applications from individuals who would like to work on a self-employed basis. If you intend to apply for the role on a self-employed basis, please make your intention clear in your application. Terms will be discussed accordingly.

About this role

We are recruiting for the post of Head of Communications to play a leading role in promoting an accurate, positive, and informed view of the Arts Council, and of the activity we support. The Head of Communications ensures that we promote our work in a single consistent voice, in a manner that is arresting, engaging and accessible.

The Head leads a team of Communication specialists who together develop print and electronic material - in Welsh and English - that reflects the Arts Council’s values, ambitions and identity. A key goal for the team is to promote the arts in innovative ways to reach a new and broader audience. The Head also co-ordinates the delivery of promotional campaigns and events that raise the profile of the arts and the Arts Council itself.

About you

You have a relevant qualification and/or substantial professional experience of working within a communications environment and have experience in formulating and implementing communication strategies. You will possess the personal authority to operate credibly at high level in public affairs for a national public body, and the flexibility to work effectively as a member of a team.

Welsh language

We work in both English and Welsh. Excellent spoken and written communication skills and the ability to confidently converse both written and orally in Welsh and English - to maintain effective relationships at senior levels both internally and externally - are essential for this post.

How to apply

Please select the apply button shown to submit the Application Form and the Equality, Diversity and Inclusion Monitoring Form. If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.

Closing date: 12:00 noon on Tuesday 28th February 2023
Interviews: Wednesday 22nd March 2023

Our benefits include flexible working hours/pattern, generous holidays and a final salary pension.

The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve. Applications from culturally and ethnically diverse people and underrepresented groups are encouraged and warmly welcomed. Applications are welcomed in Welsh or English and we will correspond with you in your language of choice. Applications submitted in Welsh will be treated no less favourably than applications submitted in English. We aim to take positive steps to ensure that all candidates are selected for jobs solely on their suitability for the role.

The Arts Council will provide support to ensure that you feel comfortable joining the organisation, the type of which may be new or unfamiliar to you, so that you can feel your best self at work. Mentoring or training will also be provided during the induction period, if required.

This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.