Cynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)

Carmarthen | Cyflog Byw Gwirfoddol

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Catering & Hospitality

Cynorthwy-ydd Y Gegin (Barista)
Yn seiliedig ar gampws Caerfyrddin ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen
Cyflog Byw yn Wirfoddol
Achlysurol

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn meithrin yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Rydym yn cynnig dulliau addysgu arloesol, y cyfarpar diweddaraf, a chymorth rhagorol ar draws ystod eang o leoliadau dysgu a chyrsiau.

At hynny, rydym yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn wythfed yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym 'nawr yn chwilio am Gynorthwywyr Y Gegin i ymuno â'n campws yng Nhaerfyrddin.

**Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais**

- Y RÔL -

Bydd gofyn i chi baratoi coffi arbenigol, diodydd poeth a gweini prydiau bwyd i safon uchel gan ddarparu gwasanaeth cwsmer effeithiol a fydd yn ategu at ddatblygiad Yr Egin fel cyrchfan yng Nghaerfyrddin. Mae gan Y Gegin syflaen eang o gwsmeriaid megis y gymuned greadigol sy’n gweithio yn y ganolfan, cynulleidfa digwyddiadau a chynadleddwyr, myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ogystal â’r gymuned leol, teuluoedd ac ymwelwyr ac felly mae angen i chi fedru cyfathrebu’n gwrtais a chynnig profiad fydd yn annog y cwsmer i ddychwelyd dro ar ôl tro.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol 'Manyleb y Person'.

- AMDANOCH CHI -

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl Cynorthwy-ydd Y Gegin, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Lefel gyffredinol dda o addysg gan gynnwys sgiliau ysgrifennu a rhifiadol da
- Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Profiad blaenorol o ryngweithio â chwsmeriaid mewn amgylchedd gwasanaeth sy'n wynebu'r blaen.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da.
- Y gallu i ddangos sgiliau trefnu effeithiol.
- Dangos y gallu i ddeall a dilyn cyfarwyddiadau.
- Y gallu i weithio'n effeithiol fel unigolyn gan gynnwys bod heb oruchwyliaeth, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
- Gallu a pharodrwydd i weithio'n hyblyg o ran dyletswyddau, patrymau shifftiau, lleoliadau campws ac er mwyn ymateb i anghenion busnes ar fyr rybudd.
- Y gallu i gynnal trafodaeth a ysgrifennu yn y Gymraeg am faterion annhechnegol*

*Mae croeso i chi gyfeirio at unrhyw gymhwyster sy’n profi eich gallu ieithyddol yn y Gymraeg e.e. y Dystysgrif Sgiliau Iaith, neu lefelau dysgwyr Cymraeg.
Byddai hefyd o fantais i'ch cais os ydych yn meddu ar y canlynol:

- Tystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio mewn cegin / amgylchedd bwyta prysur.
- Profiad o goginio sylfaenol.
- Profiad blaenorol o weithio fel gweithredwr til.
- Profiad o gynnal safonau.
- Hyfforddiant Barista.


- BUDDIANNAU -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddiannau gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddiannau i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 20 o Chwefror 2023, 11:59pm