Wardeniaid Cynorthwyol Tymhorol - Sir Benfro
Llawn amser, dros-dro. Ebrill- Hydref 2023.
A fyddech yn dymuno cael rhywfaint o brofiad a chyfrannu at waith Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro?
Fel rhan o'n rhaglen ar gyfer haf 2022, rydym yn awr yn recriwtio Wardeniaid Cynorthwyol Tymhorol i weithio yn yr awyr agored yn y Parc Cenedlaethol dros fisoedd yr haf.
Mae’r wardeniaid yn gweithio yn bennaf mewn timau o 2 ac yn cyflawni amrywiaeth eang o dasgau rheoli cefn gwlad gan gynnwys gosod ac atgyweirio dodrefn a wynebau llwybrau, ffensys a rheoli stoc. Yn ystod tymor yr haf mae’r tîm yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn torri porfa a llystyfiant ar lwybrau ac ar safleoedd ar hyd a lled yr ardal.
Byddwch chi:
• yn berson ymarferol
• â’r gallu i wneud gwaith sylfaenol o wasanaethu ac atgyweirio offer a chyfarpar.
• yn meddu ar drwydded yrru lawn.
• sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ond nid yn orfodol.
(Mae disgrifiadau llawn o’r swyddi ar gael drwy lawrlwytho.)
Darperir pob offer, gwisg swyddogol, esgidiau ac offer amddiffynnol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff. Bydd ceisiadau gan unigolion yn cael eu hystyried yn erbyn y Manyleb Person waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Cyflog a Buddion:
Cyflog sylfaenol y swyddi hyn yw £20,258 y flwyddyn (£10.50 yr awr) sy’n cynnwys yr atodiad lwfans byw. Lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau, yn codi i 31 diwrnod, ynghyd â gwyliau cyhoeddus, Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a threfniadau gweithio oriau hyblyg.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiad Cau: 12/04/2023
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.
Wardeniaid Cynorthwyol Tymhorol
Pembroke Dock |
Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector