Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu (Dwyieithog)

| £49,369 - £54,897

Employer: Gofal Cymdeithasol Cymru / Social Care Wales
Sector/Specialism: Marketing

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu (Dwyieithog)
Caerdydd neu Lanelwy (gyda gwaith hybrid)

Y cwmni

Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’n tîm yn barhaol, llawn amser.

Y Manteision

- Cyflog o £46,994 - £52,786 y flwyddyn
- 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc pro rata (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
- Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Pensiwn llywodraeth leol
- Polisi gwaith hyblyg
- Gweithio hybrid
- Polisi absenoldeb teuluol

Mae hwn yn gyfle gwych i weithiwr marchnata a chyfathrebu proffesiynol dwyieithog sydd â’r gallu i newid yn gyflym yn ôl ac ymlaen rhwng y Gymraeg a’r Saesneg i ymuno â’n sefydliad arbenigol.

Y Rôl

Fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn dylunio, datblygu a chyflwyno ein dull marchnata a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan wneud gwahaniaeth i ofal a chymorth yng Nghymru.

Gan ddatblygu llais a brand Gofal Cymdeithasol Cymru, byddwch yn adeiladu ar ein sianeli cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â’n gwahanol gwsmeriaid, cynulleidfaoedd a rhanddeiliaid allweddol.

Byddwch hefyd yn rhoi cyngor i uwch arweinwyr a rheolwyr ar gyfathrebu, materion cyhoeddus a materion enw da corfforaethol.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Datblygu a gweithredu ein strategaeth cyfryngau cymdeithasol
- Goruchwylio ein prif wefan a'n mewnrwyd
- Rheoli tîm o staff

Amdanat ti

Er mwyn cael eich ystyried yn Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, bydd angen:

- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o ysgrifennu, golygu, prawfddarllen, cysylltiadau â'r cyfryngau a chymwysiadau digidol
- Profiad o arwain tîm cyfathrebu amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth am dechnegau marchnata ac ymgysylltu â chynulleidfa
- Gwybodaeth am sut i ysgrifennu cynnwys ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianeli cyfathrebu
- Gwybodaeth am sut i ddehongli data ansoddol a meintiol
- Sgiliau arwain a chyfathrebu cryf
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu lefel dda o addysg a gefnogir gan brofiad

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Ebrill 2023.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Rheolwr Marchnata Digidol, Rheolwr Marcomms, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Rheolwr Cyfryngau a Materion Allanol, Rheolwr Cyfathrebu Digidol, neu Reolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

Felly, os ydych am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal a chymorth yng Nghymru fel Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu, gwnewch gais drwy’r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.