Deputy Mine Manager

Pontypool | £36,491.14 - £44,727.90 per annum

Employer: Amgueddfa Cymru National Museum Wales
Sector/Specialism: Engineering

Dirprwy Reolwr Glofa
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd F: £36,491.14 - £44,727.90 y flwyddyn

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Os oes gennych chi brofiad o'r diwydiant mwyngloddio danddaear, ac yn teimlo'n gryf bod Big Pit yn allweddol yn cadw hanes a threftadaeth Diwydiant Glo Cymru yn fyw, efallai taw dyma'r rôl i chi.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am bob tywysydd glofa, ac os ydych chi'n chwilio am rôl yn arwain tîm o unigolion gwych sy'n rhoi profiad unigryw i'n hymwelwyr, rydyn ni am glywed gennych chi.? ?Drwy gydlynu gwaith arolygu a chynnal a chadw statudol byddwch chi'n sicrhau lle gwaith diogel ac atyniadol i'n staff a'n hymwelwyr.

Pwll glo go iawn yw Big Pit, ac mae'n un o brif amgueddfeydd glofaol Prydain. ?Mae'r pwll ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 9.30am-5pm, ac fel rhan o Amgueddfa Cymru mae'n arddel gwerthoedd sy'n cynnig profiad ymwelwyr o safon rhyngwladol.? ?Yn nghanol tirlun diwydiannol sydd wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, mae'r Amgueddfa yn llawn nodweddion o'i chyfnod fel glofa fyw ac wedi ennill gwobrau am ei gwaith. ?Mae'n croesawu dros 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ar y teithiau tanddaear byd-enwog, lle caiff pobl deithio 300 troedfedd i grombil y ddaear i weld sut oedd bywyd i'r miloedd o ddynion oedd yn gweithio ar y ffas lo.

Mae hon yn fwy na swydd reoli. ?Mae Big Pit yn fwy na gweithle - mae'n amgueddfa arbennig iawn, gyda theimlad cryf o berchnogaeth a phwyslais ar waith tîm. ?

Mae Amgueddfa Cymru yn sefydliad carbon llythrennog. Rydyn ni'n annog ein staff i gwblhau hyfforddiant llythrennedd carbon o fewn eu chwe mis cyntaf, ac yn croesawu unrhyw ymgeiswyr sydd ag achrediad Project Llythrennedd Carbon yn barod.

Mae croeso i chi gyflwyno'ch cais yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau: 6 Ebrill erbyn 5:00yh

Am rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal. Croesewir ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Deputy Mine Manager
Big Pit National Coal Museum

37 hours per week

Permanent

Grade F: £36,491.14 - £44,727.90 per annum

The ability to speak Welsh is desirable for this post.

If you have knowledge and experience of underground mining and feel passionately that Big Pit plays a crucial role in keeping the history and heritage of Welsh Coal Mining alive, this could be the role for you.

The role has responsibility for all the museum guides, and if you enjoy a role that encompasses leading a great team of individuals who give our visitors a unique experience, we want to hear from you. Co-ordinating statutory inspection and maintenance ensures our visitors and colleagues work in a safe and engaging environment.

Big Pit is a real coal mine and one of Britain's leading mining museums. Open 7 days a week 9.30am-5pm, it is part of Amgueddfa Cymru and embodies the values that makes it a world class visitor experience. It is award-winning and set in a unique industrial landscape designated a World Heritage Site by UNESCO and retains many features of its former life as a working coal mine. It welcomes over 100,000 visitors a year to its world famous Underground Tours where people experience going 300 feet underground to see what life was like for thousands of men who worked at the coal face.

This is not just a management role. Big Pit is not just a place to work. It is a very special museum, where there is a strong culture of ownership and teamwork.

Amgueddfa Cymru is a carbon literate organisation. We encourage our staff to complete carbon literacy training within their first six months and welcome any candidates already accredited with the Carbon Literacy Project.

Applications can be submitted in Welsh. Applications that are submitted in Welsh will be treated no less favourably than those submitted in English.

Closing Date: 6 April by 5:00pm

For further information please visit our website.

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales is an equal opportunities employer. Applications are welcome from all sections of the community.