Goruchwylydd - Castell Henllys

Crymych |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Goruchwylydd - Castell Henllys
Llawn amser - 37 awr yr wythnos

Castell Henllys yw'r unig bentref Oes Haearn ym Mhrydain a ailadeiladwyd ar yr union safle lle'r oedd ein cyndeidiau Celtaidd yn byw 2000 o flynyddoedd yn ôl. Y Parc Cenedlaethol yw perchennog a rheolwr y safle, sy’n cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau a rhaglen ysgolion fywiog sy'n cynnig gwersi o'r gorffennol i'n helpu i warchod y dirwedd lle’r ydym yn byw heddiw.

Bydd y Goruchwylydd yn arwain tîm profiadol i ragori ar ddisgwyliadau ymwelwyr a sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad rhagorol. Ymhlith y cyfrifoldebau bydd masnachu, marchnata, digwyddiadau a gweithgareddau, cadw ty a chynnal a chadw’r safle.

Sgiliau a Phrofiad:

• Profiad o oruchwylio a rheoli safle yn y maes rheoli hamdden / twristiaeth / ymwelwyr.
• Lefelau rhagorol o wasanaeth i gwsmeriaid ynghyd â phrofiad mewn manwerthu gan gynnwys systemau til a stoc.
• Yn frwd dros hanes a diwylliant Cymru ynghyd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ddibenion y Parc Cenedlaethol.
• Sgiliau trefnu, gweinyddu a TG rhagorol ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael cliriad DBS.

Disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.

Cyflog a Buddion:
Cyflog o £22,777- £24,054, lleiafswm o 26 diwrnod o wyliau yn codi i 31 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 27/03/2023. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.