Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol (Rhan-Amser, FTC)

Penrhyndeudraeth |

Employer: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Sector/Specialism: Public Sector

Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol (Rhan-Amser, FTC)
Penrhyndeudraeth, Gwynedd

Amdanom ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.

Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol dwyieithog i ymuno â’n tîm yn rhan amser, gan weithio dau ddiwrnod yr wythnos, ar gontract tymor penodol i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Y Manteision

- Cyflog o £21,575 - £22,777 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Gweithio Hybrid
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Y Rôl

Fel Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol, byddwch yn darparu gwasanaeth gweinyddol AD i'n staff a'n rheolwyr.

Gan gyfathrebu trwy e-bost a llythyrau i weithwyr a thrydydd parti, byddwch yn sicrhau yr ymdrinnir â phob ymholiad a chais yn effeithiol ac yn effeithlon.

Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda'r broses recriwtio, casglu dogfennau hawl i weithio a chwblhau cytundebau, llythyrau cynnig a phecynnau sefydlu ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Diweddaru ein siartiau strwythur sefydliadol
- Gosod swyddi gwag ar y system recriwtio
- Diweddaru tracwyr gyda dechreuwyr, ymadawyr ac ystadegau cydraddoldeb
- Defnyddio systemau pobl i gofnodi data a sicrhau ansawdd data
- Cynnal a threfnu'r systemau ffeilio electronig a phapur

Amdanoch chi

I gael eich ystyried yn Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol, bydd angen:

- Rhuglder yn y Gymraeg
- Profiad gweinyddol
- Profiad o ddefnyddio systemau data i drin data cyfrinachol a sensitif
- Profiad o gynhyrchu adroddiadau
- Gallu defnyddio e-bost, Zoom, Teams, Excel a chyfryngau cymdeithasol
- Cael addysg hyd at safon TGAU mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth
- Trwydded yrru lawn, ddilys

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 4 Ebrill 2023.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Weinyddwr AD, Gweinyddwr Adnoddau Dynol, Cynorthwyydd AD, Cynorthwyydd Adnoddau Dynol, Cydlynydd Adnoddau Dynol, Cynorthwyydd Gweinyddol, Cydlynydd AD, Cynorthwy-ydd Swyddfa, neu Weinyddwr Swyddfa.

Felly, os ydych chi'n chwilio am gyfle newydd fel Swyddog Gweinyddol Adnoddau Dynol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.