Derbynnydd (Rhan-Amser, FTC)

Penrhyndeudraeth |

Employer: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Sector/Specialism: Public Sector

Derbynnydd (Rhan-Amser, FTC)
Penrhyndeudraeth, Gwynedd

Amdanom ni

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru.

Rydym nawr yn chwilio am Dderbynnydd dwyieithog i ymuno â’n tîm yn rhan amser, yn gweithio 22 awr yr wythnos, ar gytundeb tymor penodol i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

Y Manteision

- Cyflog o £21,575 - £22,777 y flwyddyn (pro rata)
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Y Rôl

Fel Derbynnydd, byddwch yn darparu gwasanaeth blaen ty effeithiol, effeithlon a phroffesiynol i aelodau’r cyhoedd a chydweithwyr yn y Parc Cenedlaethol.

Gan ddarparu gwasanaeth derbynfa a switsfwrdd, byddwch yn sicrhau bod galwadau'n cael eu hateb yn brydlon a'u trosglwyddo'n briodol, tra'n cyflwyno wyneb proffesiynol a chyfeillgar i ymwelwyr.

Byddwch hefyd yn archebu ystafelloedd cynadledda a chyfarfod, cynorthwyo gyda gwneud te a choffi a chynnal lefelau stoc o gyflenwadau arlwyo ar gyfer cyfarfodydd o'r fath.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Rheoli mewnflwch e-bost
- Darparu gwasanaeth cymorth prosesu geiriau dwyieithog
- Prosesu taliadau cerdyn credyd a chynhyrchu adroddiadau talu â cherdyn diwedd dydd

Amdanoch chi

Er mwyn cael eich ystyried fel Derbynnydd, bydd angen:

- Rhuglder yn y Gymraeg
- Profiad o waith gweinyddol mewn amgylchedd swyddfa prysur
- Profiad o ymdrin ag ymholiadau cyffredinol y cyhoedd ar lefel derbynfa
- Sgiliau prosesu geiriau rhagorol
- Hyfedredd mewn TG
- O leiaf, cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn gweinyddu busnes neu gyfwerth

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 4 Ebrill 2023.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynorthwyydd Swyddfa, Ysgrifennydd, Gweinyddwr Swyddfa Flaen, Gweinyddwr, EA, PA, Cynorthwyydd Gweithredol, Cynorthwyydd Personol, Clerc Gweinyddol, neu Gynorthwyydd Derbynfa.

Felly, os ydych chi'n chwilio am rôl newydd a deniadol fel Derbynnydd, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.