Prif Swyddog Cyfieithu

| £33,966 - £38,205 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Other

Prif Swyddog Cyfieithu
Un o gampysau’r Brifysgol yng Nghymru (yn dibynnu ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus) yn rhannol, ond dylid gallu gweithio gartref a bod yn barod i wneud hynny, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen.
£33,966 - £38,205 y flwyddyn

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o’n gweithwyr ymroddedig a dawnus, ac rydym yn cydweithio’n dîm i wneud gwahaniaeth i fywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn 14eg yn y DU am Gynhwysiant Cymdeithasol a 28fed yn y DU am Ansawdd Addysgu (Times and Sunday Times Good University Guide, 2023), ac yn 21ain yn y DU am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Complete University Guide, 2023).Mae ein llwyddiant yn pwyso’n drwm ar ymrwymiad a sgiliau ein pobl.
Rydym 'nawr yn chwilio am Brif Swyddog Cyfieithu i ymuno â ni ar sail llawn-amser, neu ddwy swydd ran amser / rhannu swydd am dymor penodedig (cyfnod mamolaeth).

- Y RÔL -
Rôl y Prif Swyddog Cyfieithu fydd ymuno â Phrif Swyddogion Cyfieithu eraill yr Uned Gyfieithu er mwyn cynnal y gwasanaeth hwn mewn ffordd mor effeithlon â phosib. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfieithu dogfennau amrywiol o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan gynnwys dogfennaeth sy’n gysylltiedig â rhaglenni academaidd y Brifysgol ynghyd â pholisïau sefydliadol a dogfennau adrannau gweinyddol.
Gwelir y ddisgrifiad swydd am fwy o wybodaeth.

- AMDANOCH CHI -
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl Prif Swyddog Cyfieithu, bydd angen i chi feddu ar y canlynol:
- Gradd gydag anrhydedd yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfwerth
- Profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd
- Sgiliau technoleg gwybodaeth priodol
- Y gallu i weithio’n annibynnol
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm
- Y gallu i weithio dan bwysau
- Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg
- Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a’r gallu i gyfathrebu’n briodol ag eraill
- Mae’r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac ar bapur, yn gwbl allweddol i’r swydd hon

Mi fydd hi’n buddiol hefyd cael:
- Cymhwyster cydnabyddedig yn Saesneg ar lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth
- Aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu gorff cyfieithu arall
- Profiad blaenorol o ddefnyddio meddalwedd cof Cyfieithu
- Y gallu i ymgymryd â gwaith cyfieithu ar y pryd

- BUDDIANNAU -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Caiff ein gweithwyr fanteisio ar becyn cyflog a buddion gwych mewn cydnabyddiaeth o’u cyfraniad gwerthfawr gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol a dilyniant cyflog
- Lwfans gadael blynyddol hael gan gynnwys diwrnodau cau’r Nadolig/Blwyddyn Newydd
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion ar eich cyfer chi a’ch teulu
- Manteisio ar blatfform buddion a llesiant, gyda dewis o fuddion i weddu i’ch anghenion, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan a gwasanaethau llesiant ariannol
- Cymorth i iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys defnyddio cyfleusterau chwaraeon ar y campws am bris gostyngol, gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol a chwnsela
- Cyfleoedd gyrfa a datblygu, gan gynnwys cefnogaeth i ennill cymwysterau pellach
- Polisïau sy’n gefnogol i deuluoedd ac sy’n darparu ar gyfer gweithio’n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cynlluniau teithio gan gynnwys y cynllun beicio i’r gwaith.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.
Noder: Eich iaith at ddibenion gohebu fydd yr iaith a ddefnyddiwch i gyflwyno eich cais. I wneud cais yn y Saesneg, cliciwch ar ‘English’ yng nghornel dde uchaf y sgrin.

Dyddiad cau: 18 Ebrill 2024, 11:59pm