Cynorthwyydd Arlwyo

Pembroke Dock |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Cynorthwyydd Arlwyo - Castell a Melin Lanw Caeriw
Cyfnod Penodol (Cychwyn: Gynted ag y bo modd - Dod i ben: 05/11/2024)

Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Nghastell Caeriw i Gynorthwyydd Arlwyo ymuno â thîm brwdfrydig o unigolion sy’n ymroddedig i gyflwyno profiadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr mewn lleoliad ysblennydd.
Mae gan Gastell Caeriw ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro hanes hynod ddiddorol sy’n ymestyn dros 2000 o flynyddoedd a mwy. Agorodd Ystafell De Nest yn y Castell yn 2018; mae'n ystafell de glyd, golau a modern sy'n gweini dewis helaeth o ginio ysgafn, cacennau cartref a the a choffi.
Dyfarnwyd y 'Wobr Twristiaeth Gynaliadwy' ac 'Atyniad Ymwelwyr y Flwyddyn' i’r tîm gwasanaethau ymwelwyr yng Nghastell Caeriw gan Wobrau Croeso Sir Benfro yn 2023.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Phrofiad o weithio mewn caffi neu mewn amgylchedd arlwyo
• Sgiliau gwasanaeth cwsmer
• Y gallu i fod yn ddigyffro dan bwysau, yn ddibynadwy, yn gyfeillgar ac yn groesawgar
• Lefel 1 Hylendid a Diogelwch Bwyd
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Mae amrywiaeth o batrymau gwaith ar gael i weddu i'r rhai sy'n chwilio am waith rhan amser, megis ar y penwythnos / gwyliau ysgol / tymor ac oriau ysgol.
Cyflog o £11.59 yr awr, ynghyd â lwfans byw atodol lle bo’n berthnasol. Lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata) a chynllun pensiwn hael llywodraeth leol.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 01 Mai 2024