Swyddog Cynnal a Chadw Llanion

Pembroke Dock |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Swyddog Cynnal a Chadw Llanion
Rhan Amser (14 awr yr wythnos) - Parhaol

Oes gennych chi brofiad o fod yn ofalwr, gwneud gwaith cynnal a chadw, goruchwylio adeiladau neu gefndir DIY neu grefft? Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyfle cyffrous newydd i ymuno â’n hadran Gwasanaethau Llanion fel Swyddog Cynnal a Chadw Parc Llanion.
Fel rhan o'r swydd hon, byddwch yn sicrhau bod yr adeilad, y gofodau mewnol a'r tiroedd yn amgylchedd gweithio saff a diogel a dymunol i’r staff ac i’r ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys gwneud gwaith ymarferol, goruchwylio staff contract a gwneud gwaith cydymffurfio a monitro.

Byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol gan gynnwys addurno, gwaith plymio a draenio sylfaenol ac ailosod a chynnal a chadw gosodiadau a ffitiadau. Hefyd bydd deiliad y swydd yn cynnal gwiriadau sylfaenol ar y tiroedd a’r adeiladau, gan sicrhau diogelwch y safle, rheoli ailgylchu yn effeithiol a rheoli’r modd y mae’r system wresogi biomas yn gweithio yn ddyddiol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
• Gwybodaeth sylfaenol o dasgau cynnal a chadw cyffredinol, a'r gallu i wneud mân atgyweiriadau.
• Profiad fel gofalwr a chynnal a chadw.
• Cymwysterau neu brofiad perthnasol mewn cefndir crefft.
• Y gallu i gadw cofnodion electronig sylfaenol.

Noder os gwelwch yn dda mai swydd yw hon i weithio 14 awr yr wythnos, a rhywfaint o hyblygrwydd i gyflenwi shifftiau eraill. Oriau gwaith: 07:30 - 10:30 a 14:00 - 18:00.

Cyfeirier at y disgrifiad swydd (ar gael drwy ei lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £23,500 - £23,893, pro rata, (i’w adolygu dan adolygiad cyflogau a graddfeydd), isafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus (pro rata), cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 01 Mai 2024