Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau

Pembroke Dock |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau

Diolch i chi am fynegi diddordeb mewn dod yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP). Rydym yn awyddus i benodi dau aelod lleyg ar hyn o bryd. Mae ein Pwyllgor Safonau yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i’r gweithdrefnau a’r protocolau y mae’r rhaid i Aelodau’r Awdurdod eu dilyn, ac mae recriwtio pobl sydd â’r sgiliau a’r agweddau cywir yn allweddol i lwyddiant y Pwyllgor.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddangos eu bod yn annibynnol ac yn ddiduedd wrth gynorthwyo’r Pwyllgor Safonau i hyrwyddo, cynnal a gwella’r trefniadau moesegol o fewn yr Awdurdod.

Mae gwaith y Pwyllgor yn ei gwneud yn ofynnol bod yr Aelodau Annibynnol yn meddu ar y nodweddion, y sgiliau a’r gofynion canlynol:

• Sgiliau gwrando;
• Y gallu i ddeall a phwyso a mesur y dystiolaeth;
• Y gallu i ddod i farn wrthrychol ac i egluro’r farn honno drwy gyfeirio at wybodaeth a thystiolaeth;
• Sgiliau o weithio fel rhan o dîm;
• Trin eraill â pharch a dealltwriaeth o faterion amrywiaeth;
• Bod yn ddoeth;
• Bod yn ddidwyll;
• Peidio â chymryd rhan weithgar mewn gwleidyddiaeth leol na chenedlaethol;
• Peidio â bod â hanes o anghydfod sylweddol â’r Awdurdod;
• Peidio â bod â pherthynas agos ag unrhyw Aelod/Swyddog o’r Awdurdod.

Nid oes angen meddu ar wybodaeth fanwl o lywodraeth leol er y byddai’n fanteisiol petai ymgeiswyr posibl â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae sawl rheswm pam fod pobl yn dewis cymryd rhan yn y modd hwn:

• Er mwyn ehangu eu gwybodaeth a’u profiad;
• Er mwyn gwella a datblygu eu CV i gamu ymlaen â’u gyrfa;
• I roi rhywbeth yn ôl, rhannu eu gwybodaeth, sgiliau a’u profiad;
• Cael y cyfle i weithio gyda phobl newydd a chael profiad o ddulliau gwahanol sefydliadau o weithredu;
• Cael y cyfle i rwydweithio â grwp ehangach o bobl sydd â’r potensial o wella meysydd eraill o’u bywyd a/neu waith;
• Fel sbardun i ymwneud â Phwyllgorau eraill neu gyrff adolygu annibynnol.

Gobeithio’n wir y bydd y pecyn hwn o wybodaeth yn eich annog i gyflwyno cais. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Dyddiau Cau: 09 Mehefin 2024
Cyfweliadau: w/c 24 Mehefin 2024