Teitl y Swydd: Cyfrannwr Gweithgareddau a Digwyddiadau
Amser Gwaith: Gwaith penwythnos - 15 awr yr wythnos yn ystod tymor yr haf
Lleoliad: Castell Henllys
Cyflog: £24,404 - £25,584 pro rata
Math o Gontract: Bytholwyrdd (oriau haf blynyddol ar gontract, oriau achlysurol dros y gaeaf)
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chyfeillgar i ymuno â'n tîm ar y safle treftadaeth unigryw ac ysbrydoledig, Castell Henllys. Os ydych yn angerddol am hanes Cymru, yr oes haearn, ac yn mwynhau ymgysylltu â phobl o bob oed - dyma’r swydd i chi.
Fel Cyfrannwr Digwyddiadau a Gweithgareddau, byddwch yn cynorthwyo’r gwaith o gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd yng Nghastell Henllys. Mae hyn yn cynnwys helpu i redeg sesiynau ysgol rhyngweithiol, ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyffredinol, a dod â'r Oes Haearn yn fyw.
Byddwch yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill o’r staff i estyn croeso cynnes i ymwelwyr a helpu i sicrhau bod eu hamser ar y safle yn bleserus, yn addysgiadol, ac yn gofiadwy. Gellir cynnig oriau ychwanegol os neu phan fo angen. Bydd y swydd o bosibl yn cynnig oriau ychwanegol achlysurol yn dibynnu ar y galw.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
• Diddordeb cryf yn yr Oes Haearn a hanes Cymru.
• Profiad o weithio mewn swydd sy'n delio â chwsmeriaid.
• Hyder wrth ymgysylltu â phlant a theuluoedd mewn amgylchedd dysgu.
• Y gallu i weithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
• Trwydded yrru lawn y DU.
• Sgiliau iaith Gymraeg (C1) - cyfeirier at y Fframwaith Cymhwysedd Iaith Gymraeg sydd ynghlwm.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiad Cau: 31/01/2025
Cyfrannwr Gweithgareddau a Digwyddiadau
Pembroke Dock |
Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector
