Business Enablers

Cardiff | £36,203 - £41,824

Employer: Arts Council of Wales
Sector/Specialism: Other

Business Enabler

Full-time (37 hours per week)
Permanent
Grade C: Salary Range - £36,203 - £41,824
Location: This role can be based at any one of the Arts Council of Wales offices in Cardiff, Colwyn Bay or Carmarthen

Our benefits include 30 days’ annual leave, 2.5 privilege days, flexible working hours/pattern, cycle to work scheme and a final salary pension (6%).

About the role

We’re looking for a proactive and collaborative Business Enabler to join our Corporate Services team. This newly created role is central to our ambition to provide strategic, responsive and high-quality business support to the arts sector in Wales.

You’ll work closely with our funded organisations, acting as a business partner to help strengthen their resilience, sustainability and impact. You’ll be expected to work independently but also to collaborate with colleagues across the Arts Council, particularly in the Arts and Research teams, to identify needs and deliver tailored support. This could range from designing training through to facilitating and delivering workshops, as well as assessing and monitoring grant applications for support. You’ll also contribute to sector-wide initiatives, training programmes and the development of new approaches to business and operational development.

This is a dynamic role that will see you using your skills across a broad spectrum of business disciplines, including finance, governance, HR, income generation, climate justice and fundraising.

About you

You’ll be an excellent communicator with experience in business partnering or providing independent operational support to organisations. You’ll be confident navigating complex challenges and building trusted relationships with stakeholders.

You may bring expertise in a specific area, but you’ll also be comfortable working across disciplines and adapting to emerging needs. You’ll be analytical, organised, outcome-focused, and a problem solver, with a commitment to inclusive and ethical practice.

Welsh language

We work in both English and Welsh. Welsh language skills are essential for this role. You will need to be able to communicate in both English and Welsh in meetings, individually and in public. We are looking for an individual who understands the culture of Wales, the diverse relationship of the people of Wales with the Welsh language and who is committed to ensuring a progressive use of Welsh linguistically and culturally within the Arts Council and the wider sector. Everyone's story with the language is different, and we recognise that Welsh language confidence levels vary from person to person.

Diversity and Inclusion

The Arts Council of Wales is an inclusive employer, and we wish to reflect the diverse communities we serve. Applications from culturally and ethnically diverse people and underrepresented groups are encouraged and warmly welcomed. Applications are welcome in Welsh or English, and we will correspond with you in your language of choice.

Disability Confident Scheme

The Arts Council of Wales is a Disability Confident employer, committed to interviewing all disabled applicants who meet all the essential criteria set out in the person specification.

Flexible working

In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

How to apply

Please submit the Application Form in Word format. Please complete the Equality, Diversity and Inclusion Monitoring Form via the Microsoft Forms link that can be found in the application form.

If you would like to submit your application in an alternative format, such as voice note, video or British Sign Language video, please contact us first.

Closing date: 12pm (Midday) Monday 26 January 2026

Interviews: Thursday 12 February 2026 (in person in Cardiff)

Hwylusydd Busnes

Llawn amser (37 awr) yr wythnos
Cytundeb Parhaol
Gradd C: Graddfa Cyflog - £36,203 - £41,824
Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y Rôl

Rydym yn chwilio am Hwylusydd Busnes rhagweithiol a chydweithredol i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Corfforaethol. Mae’r rôl newydd hon yn ganolog i’n huchelgais i ddarparu cefnogaeth fusnes strategol, ymatebol ac o ansawdd uchel i’r sector celfyddydau yng Nghymru.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n sefydliadau a ariennir, gan weithredu fel partner busnes i helpu i gryfhau eu gwydnwch, eu cynaliadwyedd a’u heffaith. Disgwylir i chi weithio’n annibynnol ond hefyd cydweithio â chydweithwyr ar draws Cyngor Celfyddydau, yn enwedig efo timau y Celfyddydau ac Ymchwil, i nodi anghenion a darparu cefnogaeth wedi’i theilwra. Gallai hyn amrywio o ddylunio hyfforddiant i hwyluso a chyflwyno gweithdai, yn ogystal ag asesu a monitro ceisiadau grant am gymorth. Byddwch hefyd yn cyfrannu at fentrau ar draws y sector, rhaglenni hyfforddiant a datblygiad dulliau newydd o ran datblygiad busnes a gweithredol.

Mae hon yn rôl ddeinamig a fydd yn gweld chi’n defnyddio eich sgiliau ar draws sbectrwm eang o ddisgyblaethau busnes, gan gynnwys cyllid, llywodraethu, AD, cynhyrchu incwm, cyfiawnder hinsawdd a chodi arian.

Amdanoch chi

Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol gyda phrofiad o bartneriaeth fusnes neu ddarparu cefnogaeth weithredol annibynnol i sefydliadau. Byddwch yn hyderus wrth lywio heriau cymhleth ac adeiladu perthnasoedd ymddiriedus gyda rhanddeiliaid.

Byddwch efallai yn dod â gwybodaeth arbenigol mewn maes penodol, ond byddwch hefyd yn gyfforddus yn gweithio ar draws disgyblaethau ac yn addasu i anghenion sy’n dod i’r amlwg. Byddwch yn ddadansoddol, yn drefnus, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn ddatryswr problemau, gyda ymrwymiad i arferion cynhwysol a moesegol.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gofynion iaith Gymraeg hanfodol i’r swydd hon. Mae angen gallu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg mewn cyfarfodydd, yn unigol ac yn gyhoeddus. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach. Mae stori pawb gyda’r iaith yn wahanol ac rydym yn cydnabod bod lefelau hyder defnydd o’r Gymraeg yn amrywio o berson i berson.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch y Ffurflen Gais yn fformat Word. Cwblhewch y Ffurflen Monitro ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy'r ddolen Microsoft Forms sydd i’w chael yn y ffurflen gais.

Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) Ddydd Llun 26 Ionawr 2026

Cyfweliadau: Dydd Iau 12 Chwefror 2026 (mewn person yng Nghaerdydd)