Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cynorthwyydd Tymhorol Gwasanaethau Ymwelwyr - Castell Caeriw
-3 diwrnod yr wythnos o ganol mis Gorffennaf i ddiwedd mis Awst (18 awr yr wythnos)
-4 diwrnod yr wythnos o ganol mis Gorffennaf i ddiwedd mis Awst (24 awr yr wythnos)
Cyflog £13.05 - £13.69 yr awr / £25,185 - £26,403 pro rata
Mae cyfle cyffrous newydd ar gael i ymuno â'r tîm yng Nghastell a Melin Lanw Caeriw fel Cynorthwyydd Tymhorol Gwasanaethau Ymwelwyr gan helpu i greu amgylchedd croesawgar i bob ymwelydd a sicrhau bod yr ardaloedd derbyn a manwerthu yn rhedeg yn hwylus bob dydd.
Mae Castell a Melin Lanw Caeriw yn atyniad treftadaeth arobryn sy'n croesawu tua 55,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Dyfarnwyd yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr i'r safle yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro 2024/2025 a Gwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru.
Bydd eich dyletswyddau yn cynnwys delio ag ymholiadau a chwestiynau ymwelwyr wyneb yn wyneb, dros y ffôn a drwy’r e-bost. Byddwch yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a gwybodus am y safle, y Parc Cenedlaethol a'r ardal gyfagos fel bod pob ymwelydd yn gallu mwynhau’r ardal i’r eithaf, gan gynnig cyngor ac argymhellion i ymwelwyr.
Byddwch yn gweithio yn yr ardaloedd derbyn, yn gwerthu tocynnau ar gyfer ymweliadau dydd, digwyddiadau a gweithgareddau. Gan weithio yn siop anrhegion y Castell byddwch yn defnyddio'r system EPoS i werthu nwyddau, ailgyflenwi stoc manwerthu a chynnal safonau cadw ty.
Bydd gennych brofiad mewn rôl manwerthu neu wasanaeth cwsmeriaid, a lefelau rhagorol o wasanaeth cwsmeriaid.
Rydych yn berson cyfeillgar ac yn gyfathrebwr hawdd. Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn fantais, yn ogystal â brwdfrydedd dros safle Caeriw a diddordeb mewn hanes.
Cymerwch olwg ar y disgrifiad swydd am fanylion llawn y swydd a'r cyfrifoldebau.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Dyddiad Cau: 07/06/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.
Cynorthwyydd Tymhorol Gwasanaethau Ymwelwyr – Castell Caeriw
Carew |
Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector
