Arweinydd Gweithgareddau Tymhorol

Carew |

Employer: Pembrokeshire Coast National Park Authority
Sector/Specialism: Public Sector

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Arweinydd Gweithgareddau (Tymhorol)
Graddfa 2 (SCP 4 - 7)
Cyflog £13.05 - £13.69 yr awr / £24,404 - £25,584 pro rata
Pump diwrnod yr wythnos / 25 awr

Mae cyfle cyffrous newydd ar gael i ymuno â'r tîm yng Nghastell a Melin Lanw Caeriw fel Arweinydd Gweithgareddau Tymhorol i gyflwyno rhaglen o weithgareddau mewn gwisg y cyfnod i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae Castell a Melin Lanw Caeriw yn atyniad treftadaeth arobryn sy'n croesawu tua 55,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Dyfarnwyd yr Atyniad Gorau i Ymwelwyr i'r safle yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro 2024/2025 a Gwobrau Twristiaeth De-orllewin Cymru.
Yn y swydd hon byddwch yn arwain rhaglen o weithgareddau’r haf mewn gwisg cyfnod y Castell yn ddyddiol, gan gynnwys Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth ac Ysgol y Marchogion.
Mae sicrhau bod y sesiynau yn hwyl, yn llawn egni ac yn gyffrous i blant a theuluoedd yn allweddol. Byddwch yn chwarae rhan cymeriad i ddifyrru ac addysgu plant, gan arwain Ysgol y Marchogion gyda brwdfrydedd!
Byddwch yn goruchwylio'r maes Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth, gan gadw at ganllawiau iechyd a diogelwch llym. Mae hyn yn cynnwys gosod a gwirio'r holl offer yn ddyddiol, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am drin arian a chadw cofnodion.
Byddwch yn berson cyfeillgar a chroesawgar â phrofiad blaenorol o weithio gyda phlant. Yn weithiwr trefnus, yn dysgu’n gyflym â sgiliau rhagorol mewn gwasanaeth cwsmeriaid.
Rhoddir hyfforddiant llawn. Rhaid cael gwiriad y DBS ar gyfer y swydd.

Cymerwch olwg ar y disgrifiad swydd am fanylion llawn y swydd a'r cyfrifoldebau.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 07/06/2026