Cydlynydd Tîm Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol

| £31,406 - £35,326 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Secretarial, PA & Administration


Cydlynydd Tîm: Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Caerfyrddin neu Abertawe (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
£31,406 - £35,326 y flwyddyn

- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am
Cydlynydd Tîm: Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin neu Abertawe yn llawn-amser am gyfnod penodol o 6 mis gan weithio 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle cyffrous i unigolyn gynnig am secondiad chwe mis neu gontract penodol er mwyn ymuno â Chanolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol gan gyfrannu at y modd y mae’n cynllunio ac yn darparu’i gwasanaethau Cymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar y gwaith o gydlynu gweithgarwch yn ymwneud â Safonau Iaith Gymraeg y Brifysgol, yn ogystal â chynorthwyo gyda’r gwaith o gydlynu gweithgarwch prosiect a materion gweithdrefnol dydd-i-ddydd y Ganolfan.
Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'.

- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cydlynydd Tîm: Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, bydd arnoch angen y canlynol:
- Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol
- Profiad blaenorol o reoli, gweithredu a monitro prosiectau lefel uchel
- Profiad o adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o weithdrefnau sicrhau ansawdd
- Profiad o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau newydd.
- Dealltwriaeth o faes polisi ym maes y Gymraeg
- Profiad o lunio a chyflwyno adroddiadau cyfnodol ar gynnydd yn fewnol ac i randdeiliaid allanol
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel
- Y gallu i fod yn flaengar er mwyn adnabod a datrys problemau, lliniaru risg yn ogystal â gwneud penderfyniadau sy’n gwarchod buddiannau’r Brifysgol
- Meddu ar sgiliau TG ardderchog (Pecyn Microsoft a platfformau digidol)
- Yn gallu ac yn barod i weithio’n hyblyg
- Cymhwysedd uchel yn y Gymraeg gan gynnwys y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg i ar lefel hyfedredd
Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:
- Cymhwyster rheoli prosiect
- Profiad blaenorol o gydlynu, gweithredu a monitro gweithgarwch o fewn cyd-destun AU.
- Profiad blaenorol o weithio gydag ysgolion ac asiantaethau allanol.
- Profiad o gynllunio rhaglenni gan gynnwys sgopio ac asesu risg

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cydlynydd Tîm: Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 12 Gorffennaf 2022, 11:59pm