Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu

| £44,737 to £53,353 y flwyddyn

Employer: University of Wales Trinity Saint David
Sector/Specialism: Secretarial, PA & Administration

Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu
Lleoliad: I’w drafod
£44,737 - £53,353 y flwyddyn

- AMDANOM NI -
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.
Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.
Rydym ’nawr yn chwilio am Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu i ymuno â ni'n llawn-amser ac yn barhaol, yn gweithio 37 awr yr wythnos.

- Y RÔL -
• Gweithredu fel rheolwr prosiect Cynllun Digidol y Ganolfan. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod y prosiectau a amlinellir yn y Cynllun yn cael eu darparu ar amser ac i gyllideb.
• Rhoi arweiniad ar flaenoriaethau creu a chomisiynu adnoddau a sicrhau rheolaeth o ansawdd yr adnoddau at ddefnydd 15,000 o ddysgwyr y Ganolfan.
• Sicrhau bod elfennau y Cynllun Digidol yn gweithio oddi fewn i Safle Rhyngweithiol y Ganolfan.
• Rheoli Prosiect Duolingo gan gymryd cyfrifoldeb dros y tîm o dri sy’n gwneud y gwaith. Mae Duolingo yn denu hanner miliwn o ddefnyddwyr i’r cwrs Cymraeg.
• Rheoli’r gwaith o lyfrgellu holl adnoddau’r Ganolfan, er mwyn hwyluso’r gwaith o resymoli ac ail ddefnyddio.
• Cydweithio ar draws tri cyfarwyddiaeth y Ganolfan er mwyn cydlynu elfennau amrywiol y cynllun.
• Gweithredu fel Rheolwr y Polisi Hygyrchedd, gan ddiwallu gofynion y cynllun gweithredu ac adolygu’r Polisi ar gyfer y dyfodol.
• Paratoi adroddiadau ar gyflawniad y gwaith fel bo angen.
• Cydweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod adnoddau digidol y Ganolfan yn cael eu rhannu yn briodol gyda sectorau / sefydliadau eraill.
• Rheoli’r gwaith o wella ansawdd darparwyr Dysgu Cymraeg, bydd hyn yn cynnwys gosod targedau, monitro cynnydd a sicrhau atebolrwydd.
• Gweithio gyda darparwyr i baratoi ar gyfer arolygiadau Estyn ac arwain at y gwaith o wneud gwaith dilynol gyda darparwyr.
• Darparu cefnogaeth rheolwr llinell i’r Swyddog Digidol.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n gydnaws ac yn gymesur â’r swydd yn unol â dymuniad y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person’.

- AMDANOCH CHI -
I gael eich ystyried ar gyfer rôl Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu, bydd arnoch angen y canlynol:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (neu’r profiad proffesiynol cyfwerth)
- Profiad o weithio’n effeithiol fel unigolyn, fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill
- Profiad o reoli prosiect, gan gynnwys rheoli cyllideb neu adnoddau
- Profiad o ysgrifennu dogfennau lefel uchel
- Profiad o weithio yn y sector dysgu Cymraeg
- Profiad o ddarparu cyngor ar adnoddau addysgol
- Profiad o arwain ar faterion ansawdd
- Y gallu i feddwl a gweithredu yn strategol
- Y gallu i gyflawni gwaith yn annibynnol, yn erbyn terfynau amser tynn ac i safon uchel
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu addas ar gyfer ystod o gynulleidfa gyda’r gallu i argyhoeddi a dwyn perswâd
- Sgiliau cyflwyno rhagorol
- Barod i deithio i fodloni gofynion sy’n ymwneud â’r swydd ac i weithio o amrywiol leoliadau pan fo angen
- Meddu ar drwydded yrru gyfredol a dilys
- Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig
-
Byddai hefyd o fantais i'ch cais pe byddech yn meddu ar y canlynol:
- Cymhwyster neu hyfforddiant benodol mewn rheoli prosiectau

- BUDDION -
- Bydd gennych hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gwyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau
Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:
- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol
- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu
- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl
- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau
- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela
- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau
- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl Rheolwr Adnoddau ac Ansawdd Dysgu ac Addysgu, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.
Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023, 11:59pm