Polisi Preifatrwydd

Caiff ein Polisi Preifatrwydd ei rannu’n dair adran. Os ydych chi’n cyflwyno data personol i WR Group Ltd (“WR Group”, “Webrecruit”, “we”, “our” or “us”) er mwyn chwilio am waith, yna gweler Adran 1. Os ydych chi eisoes yn gwsmer a/neu’n gyflenwr neu’n ddarpar gwsmer a/neu gyflenwr i Webrecruit, gweler Adran 2. I weld gwybodaeth gysylltu gyffredinol a’r drefn gwyno, gweler Adran 3.

 

ADRAN 1 – DATA CEISWYR SWYDDI

 

Eich Proffil a’ch Manylion Personol

Bydd yr holl fanylion a gyflwynir gennych yn cael eu storio gan Webrecruit. Fel y Rheolydd Data, bydd Webrecruit yn rhannu eich manylion â’r cwmni yr ydym yn casglu ceisiadau am swydd ar ei gyfer. Rydym yn prosesu eich data dan y tair sail gyfreithiol ganlynol: (i) er mwyn y budd dilys o ddarparu ein gwasanaethau i chi, gan gynnwys rhoi’r diweddaraf ichi am statws eich cais/ceisiadau a/neu eich hysbysu o gyfleoedd cyflogaeth addas eraill; (ii) er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau statudol; neu (iii) er mwyn cyflawni unrhyw gontract, neu er mwyn ymrwymo i gontract â chi.

Caiff eich manylion personol, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, ymatebion i gwestiynau ceisiadau a’ch CV (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddelir megis cyfeiriad, dyddiad geni, hanes gwaith ac addysg), eu dal a’u defnyddio gennym at y dibenion canlynol:

• Er mwyn rhoi ystyriaeth i unrhyw geisiadau a gyflwynoch am swyddi gwag a hysbysebwyd gan Webrecruit
• Er mwyn gweld pa swyddi gwag addas a hysbysebir gan Webrecruit sy’n cyfateb i’ch manylion, a’ch hysbysu ohonynt drwy e-bost
• Er mwyn anfon cylchlythyron ac arolygon yn achlysurol
• Er mwyn caniatáu ichi gael mynediad i’ch cyfrif a mewngofnodi iddo

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei storio gan Webrecruit am 5 mlynedd ar ôl eich cais diweddaraf am swydd a/neu’r dyddiad mewngofnodi diweddaraf, ac wedi hynny caiff ei dileu’n awtomatig.

Platfform cwmwl yw ein system tracio ymgeiswyr ac mae’n bosibl cael mynediad iddi drwy borwr mewn unrhyw leoliad. Ni chaiff dim data ei drosglwyddo i leoliadau na thrydydd partïon y tu allan i’r EEA a chaiff data (a chopïau wrth gefn) ei letya bob amser ar weinyddion OVH yn Roubaix yn Ffrainc a London yn UK.

Trydydd partïon

Mae Webrecruit yn defnyddio nifer o gyflenwyr trydydd parti i ddarparu ei wasanaethau i ymgeiswyr a chyflogwyr. Ym mhob achos, mae Webrecruit wedi ceisio a chofnodi cytundebau prosesu data a diogelwch data â’r trydydd partïon hyn.

OVH – caiff eich data ei storio ar weinyddion a ddarperir gan OVH a ddefnyddir i letya ein System Tracio Ymgeiswyr. Caiff yr holl ddata ei amgryptio pan gaiff ei drosglwyddo wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd neu unrhyw rwydwaith arall.

Caiff eich data hefyd ei rannu â chwmnïau sy’n gweithio â ni er mwyn gallu darparu gwasanaethau ichi gan gynnwys platfformau danfon e-bost, meddalwedd y ddesg gymorth a darparwyr meddalwedd parsio CVs.

Sylwer ei bod yn bosibl y bydd Webrecruit hefyd yn rhannu eich data â CThEM neu adrannau’r llywodraeth os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arno i wneud hynny.

 

Sut Byddwn yn Cysylltu â Chi

Byddwn yn cysylltu â chi naill ai drwy e-bost, neges destun neu’r ffôn i’ch hysbysu o ddiweddariadau ar eich ceisiadau am swydd. Caiff hyn ei wneud gan Webrecruit neu’r cwmni sy’n recriwtio neu’n cynrychioli’r swydd wag drwom ni.

Gallai penderfyniadau ynglŷn ag a gredir bod eich cais yn addas ar gyfer swydd weithiau gael eu gwneud ar sail eich atebion i gwestiynau un ateb neu amlddewis. Nid yw’r penderfyniad ynglŷn â pha atebion y credir eu bod yn addas neu’n anaddas wedi’i awtomeiddio a chaiff y penderfyniad ei wneud gan naill ai Webrecruit neu’r cwmni sy’n cynrychioli’r swydd sy’n cael ei hysbysebu.

 

Cludadwyedd Data a Mynediad Iddo

Os hoffech gael copi o’r holl ddata sydd gennym mewn fformat electronig cyffredin, cysylltwch â candidate@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais. Bydd eich cais yn cael ymateb ac yn cael ei gwblhau mewn mis.

 

Dileu Data

Os hoffech i’ch data gael ei ddileu, mewngofnodwch i’ch cyfrif. Yma cewch ddewis cyflwyno cais i’w ddileu a byddwn yn gweithredu ar y cais hwn cyn pen 28 diwrnod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dileu data, cysylltwch â candidate@webrecruit.co.uk.

 

Gwrthwynebu a Chyfyngu ar brosesu Data

Os byddwch yn gwrthwynebu i’ch data gael ei brosesu mewn unrhyw ffordd neu os hoffech gyfyngu ar unrhyw brosesu pellach, cysylltwch â candidate@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais.

 

Cywiro Data

Os hoffech gywiro unrhyw ddata yr ydych wedi’i gyflwyno oherwydd ei fod yn anghywir neu’n anghyflawn, cysylltwch â candidate@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais. Bydd eich cais yn cael ymateb ac yn cael ei gwblhau mewn mis.

 

ADRAN 2 – DATA CWSMERIAID A CHYFLENWYR

Eich Data Personol

Er mwyn cynnal ein perthynas â’n Cwsmeriaid a’n Cyflenwyr presennol a darpar Gwsmeriaid a Chyflenwyr, byddwn yn storio data personol personél a chynrychiolwyr perthnasol o’r cwmnïau hyn.

Gallai’r data personol a gasglwn gynnwys enwau, cyfeiriadau e-bost, rhifau cysylltu, teitl swydd, meysydd arbenigedd proffesiynol, cyfeiriad cyflogaeth a nodiadau yn dilyn sgyrsiau neu gyfarfodydd a gafwyd ynglŷn â’r unigolyn.

 

Sut a Pham Byddwn yn Cysylltu â Chi

Gellir cysylltu â chi naill ai dros y ffon, drwy e-bost, neges destun, ffacs neu’r post er mwyn (i) cyflawni unrhyw wasanaethau a brynwyd; (ii) ymholiadau am daliad yn ymwneud â gwasanaethau neu gynhyrchion a brynwyd; (iii) diweddariadau a/neu newidiadau yn ein gwasanaethau a’n cynhyrchion; (iv) newidiadau mewn personél perthnasol yn Webrecruit (ee. Rheolwyr Cyfrifon neu newid mewn perchnogaeth); (v) gohebiaethau marchnata am ein cynhyrchion, gwasanaethau a chynnwys o fath arall sy’n berthnasol i’r diwydiant.

 

Trydydd partïon

Mae Webrecruit yn defnyddio nifer o gyflenwyr trydydd parti i ddarparu ei wasanaethau i ymgeiswyr a chyflogwyr. Ym mhob achos, mae Webrecruit wedi ceisio a chofnodi cytundebau prosesu data a diogelwch data â’r trydydd partïon hyn.

Caiff eich data hefyd ei rannu â chwmnïau sy’n gweithio â ni er mwyn gallu darparu gwasanaethau ichi gan gynnwys, darparwyr meddalwedd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid, meddalwedd e-bost a’r ddesg gymorth.

Sylwer ei bod yn bosibl y bydd Webrecruit hefyd yn rhannu eich data â CThEM, adrannau’r llywodraeth neu gwmnïau yswiriant os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arno i wneud hynny.

 

Dileu Data

Os hoffech i’ch data personol gael ei ddileu cysylltwch â info@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais. Bydd eich cais yn cael ymateb ac yn cael ei gwblhau mewn mis. Sylwer y gellid bod amgylchiadau pan fydd angen cadw rhywfaint o ddata at ddibenion statudol neu gontractiol.

 

Cludadwyedd Data a Mynediad Iddo

Os hoffech gael copi o’r data personol sydd gennym mewn fformat electronig cyffredin, cysylltwch â info@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais. Bydd eich cais yn cael ymateb ac yn cael ei gwblhau mewn mis.

 

Gwrthwynebu a Chyfyngu ar brosesu Data

Os byddwch yn gwrthwynebu i’ch data gael ei brosesu neu os hoffech gyfyngu ar unrhyw ohebiaethau pellach gan Webrecruit, cysylltwch â info@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais.

 

Cywiro Data

Os hoffech gywiro unrhyw ddata y credwch sydd gennym oherwydd ei fod yn anghywir neu’n anghyflawn, cysylltwch â info@webrecruit.co.uk gyda manylion eich cais. Bydd eich cais yn cael ymateb ac yn cael ei gwblhau mewn mis.

 

ADRAN 3

Cwynion

Os teimlwch fod eich hawliau wedi cael eu tramgwyddo neu fod eich data wedi cael ei gamddefnyddio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio info@webrecruit.co.uk. Gallwch hefyd gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i https://ico.org.uk/concerns/.

 

Newidiadau yn ein Polisi Preifatrwydd

Gall Webrecruit newid y polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Os newidiwn ein polisi preifatrwydd i’r dyfodol, fe wnawn ddatgan y newidiadau hynny yma, fel eich bod bob amser yn gwybod pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu, at ba ddibenion y gallwn ei defnyddio ac wrth bwy y gallem ei datgelu. Os oes gennych, ar unrhyw amser, gwestiynau neu bryderon am ymrwymiad preifatrwydd ar-lein Webrecruit, mae croeso ichi anfon e-bost ar info@webrecruit.co.uk wedi’i farcio at sylw’r Swyddog Diogelu Data.

Mae Webrecruit yn gweithredu system gaeth i reoli fersiynau er mwyn cadw cofnodion manwl o’r newidiadau a wneir yn y polisi preifatrwydd. Diweddarwyd y polisi hwn ddiwethaf ar Chwefror 9fed 2023.

 

Manylion cysylltu

Gallwch gysylltu â Webrecruit fel a ganlyn:

e-bost: info@webrecruit.co.uk
Teleffon: 01392 829400
Post: 1 Kew Court, Pynes Hill, Exeter, Devon, EX2 5AZ

Marciwch unrhyw ohebiaeth sy’n ymwneud â diogelu data at sylw ein Swyddog Diogelu Data, Jasper Kashap (Cyfarwyddwr Gweithrediadau).

 

Polisi Cwcis

Mae polisi cwcis Webrecruit yn berthnasol i wefan www.webrecruit.co, pob is-barth, ac unrhyw gymwysiadau symudol sy’n gysylltiedig â nhw (er enghraifft apiau iPhone, BlackBerry neu iPad).

Mae Webrecruit yn defnyddio cwcis i dracio sut rydych yn defnyddio ein gwefan. Pan ewch i’n gwefan, rydym yn anfon un neu ragor o gwcis i’ch cyfrifiadur, rydym yn defnyddio cwcis sesiynau ar gyfer rhediad hanfodol y wefan, megis monitro sut rydych yn llywio’r wefan, a chwcis parhaol fel bod ein gwefan yn gwybod pan rydych chi’n dychwelyd ac at ddibenion dadansoddi ystadegol (rydym yn defnyddio technolegau dadansoddi a ddarperir gan Google Analytics a thrydydd partïon eraill).

Nid yw’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy. Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well ichi drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai sydd ddim. Mae’r ddealltwriaeth hon yn ein helpu i ddatblygu a gwella ein gwefan yn ogystal â’n cynhyrchion a / neu ein gwasanaethau mewn ymateb i’r hyn y bydd arnoch ei angen neu ei eisiau o bosibl.

Drwy ddal i ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno inni roi cwcis ar eich dyfais. Os dewiswch beidio â derbyn ein cwcis, ni fydd yn bosibl defnyddio’r wefan hon yn effeithiol.

Drwy lywio o amgylch ein gwefan, rydym yn tybio eich bod yn cydnabod eich bod yn fodlon inni osod cwcis i wella eich profiad.

I weld ein Polisi Cwcis llawn, ewch i https://www.webrecruit.co/about/cookies/.

 

Hysbysiad Hawlfraint

Mae’r holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y wefan hon dan hawlfraint © Webrecruit 2023.

Crëwyd y wefan hon ar gyfer ac ar ran Webrecruit.