Wales’ Leading Bilingual Hiring Platform
Prif Blatfform Cyflogi Dwyieithog Cymru


Speak the Language of Your Candidates
Siaradwch Iaith eich Ymgeiswyr

Webrecruit works with Welsh companies, charities and public sector organisations to deliver a great bilingual candidate experience, transform candidate communications and ensure equality in the recruitment process, no matter what language your applicants speak.

We support the Welsh Government’s mission to help people communicate in Welsh in all areas of their life, from education through to the workplace. Here’s how our recruitment advertising, applicant tracking system (ATS) and careers site solutions can help your organisation work towards the Cymraeg 2050 vision.

Mae Webrecruit yn gweithio gyda chwmnïau, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu profiad dwyieithog gwych i’r ymgeisydd, trawsnewid cyfathrebiadau’r ymgeisydd a sicrhau cydraddoldeb yn y broses recriwtio, ni waeth pa iaith y mae eich ymgeiswyr yn ei siarad.

Rydym yn cefnogi cenhadaeth Llywodraeth Cymru i helpu pobl i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob maes o’u bywydau, o addysg i’r gweithle. Dyma sut mae ein hysbysebu recriwtio, ein system olrhain ymgeiswyr (SOY) a’n hatebion safle gyrfaoedd yn gallu helpu eich sefydliad chi i weithio tuag at weledigaeth Cymraeg 2050.

Localisation
Lleoliad

Don’t just rely on APIs and automated translations; ensure the total accuracy of candidate communications with Webrecruit ATS’s Welsh language pack. Webrecruit ATS can even make language packs available for regional variations of the Welsh language and can reflect different forms, styles and words, to help you communicate effectively with candidates in every community.

Peidiwch â dibynnu yn unig ar RhRhCau a chyfieithiadau a awtomeiddiwyd; sicrhewch fanwl gywirdeb cyfathrebiadau’r ymgeisydd gyda phecyn iaith Gymraeg SOY Webrecruit. Gall Webrecruit hyd yn oed sicrhau bod pecynnau iaith ar gael ar gyfer amrywiadau rhanbarthol o’r iaith Gymraeg a gall adlewyrchu ffurfiau, arddulliau a geiriau gwahanol, er mwyn eich helpu chi i gyfathrebu yn effeithiol gydag ymgeiswyr ym mhob cymuned.

Candidate Experience
Profiad yr Ymgeisydd

Provide a seamless bilingual candidate experience at every touchpoint with Webrecruit ATS and careers sites, while keeping your costs low. From your application form and candidate emails right the way through to your onboarding documents, our technology makes it easy to communicate with candidates and offer an equally positive experience, whether their first language is Welsh or English.

Darperwch brofiad dwyieithog di-dor i’r ymgeisydd ar bob cam, gyda SOY a safleoedd gyrfaoedd Webrecruit, tra’n cadw’ch costau yn isel. O’ch ffurflen gais a’ch e-byst at yr ymgeiswyr at eich dogfennau cynefino, mae ein technoleg ni yn hwyluso cyfathrebu gydag ymgeiswyr ac yn cynnig profiad yr un mor gadarnhaol, p’un a yw eu hiaith gyntaf yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Bilingual Advertising
Hysbysebu Dwyieithog

Let our team of recruitment experts create a tailored advertising package for your vacancy, comprising a web-optimised dual language advert and exposure on all the leading job boards, social networks and specialist Welsh media, including Swyddle, Safle Swyddi, Lleol and Golwg 360. We’ll help you keep your costs low while still reaching the right candidates.

Gadewch i’n tîm o arbenigwyr recriwtio greu pecyn hysbysebu wedi’i deilwra ar gyfer eich swydd wag, sy’n cynnwys hysbyseb mewn dwy iaith wedi’i hoptimeiddio ar gyfer y we a sylw ar yr holl brif fyrddau swyddi, y rhwydweithiau cymdeithasol a’r cyfryngau Cymraeg arbenigol, gan gynnwys Swyddle, Safle Swyddi, Lleol a Golwg 360. Byddwn yn helpu i gadw’ch costau yn isel tra’n parhau i gyrraedd yr ymgeiswyr cywir.

Data and Insight
Data a Mewnwelediad

Get real insight into your hiring; Webrecruit ATS turns reporting and compliance into a pain-free task. Monitor your equality and diversity initiatives, learn which job boards work for your vacancies and keep on top of your recruitment costs, all with the click of a button.

Cewch fewnwelediad go iawn ynglŷn â sut i gyflogi; mae SOY Webrecruit yn gwneud adrodd a chydymffurfio yn dasg hawdd. Cewch fonitro eich mentrau cydraddoldeb ac amrywiaeth, dysgu pa fyrddau swyddi sy’n gweithio ar gyfer eich swyddi gwag a rheoli eich costau recriwtio, y cyfan oll drwy glicio botwm yn unig.

Employer Branding
Brandio Cyflogwyr

Show your organisation’s commitment to bilingualism and make a great first impression on potential future employees with an eye-catching bilingual careers site. Promote your Employer Value Proposition (EVP) and sell yourself as a Welsh employer of choice. Toggle between languages on your careers site for flexibility and link your Welsh and English site to one ATS.

Dangoswch ymrwymiad eich sefydliad tuag at ddwyieithrwydd a gwnewch argraff wych o’r cychwyn cyntaf ar weithwyr posibl y dyfodol gyda safle gyrfaoedd dwyieithog deniadol. Hyrwyddwch eich Datganiad Gwerth y Cyflogwr (DGC) a gwerthwch eich hun fel cyflogwr Cymraeg o ddewis. Er mwyn bod yn hyblyg, toglwch rhwng ieithoedd ar eich safle gyrfaoedd a chysylltwch eich safle Cymraeg a’ch safle Saesneg ag un SOY.

We are very pleased with the look and feel of our bilingual careers site and have seen an increase in both the number and quality of applications for roles with the Authority.

Jo Worrall | Head of Personnel, Snowdonia National Park Authority

Rydym yn fodlon iawn gyda golwg a theimlad ein safle gyrfaoedd dwyieithog ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer ac ansawdd y ceisiadau am swyddi gyda’r Awdurdod.

Jo Worrall | Pennaeth Personél, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Webrecruit staff are really helpful and work quickly and efficiently to get our adverts out into the public domain. By using Webrecruit we’ve saved us so much staff time and effort as well as the overall cost of advertising. Thank you!

Carys Hedd Paschalis | Head of Human Resources, Arts Council of Wales

Mae staff Webrecruit o gymorth mawr ac maen nhw’n gweithio yn gyflym ac yn effeithlon i gael ein hysbysebion allan i’r parth cyhoeddus. Drwy ddefnyddio Webrecruit, rydym wedi arbed cymaint o amser ac ymdrech y staff, yn ogystal â chost gyffredinol hysbysebu. Diolch yn fawr!

Carys Hedd Paschalis | Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyngor Celfyddydau Cymru

We’ve been using Webrecruit for almost two years and from the start they’ve made the process of advertising so quick and easy. The staff are always very helpful and we can always ensure a quick turnaround.

Kirstie Mason | Human Resources Assistant, National Museum Wales

Rydym wedi bod yn defnyddio Webrecruit ers bron i ddwy flynedd, ac o’r cychwyn cyntaf, maen nhw wedi gwneud y broses o hysbysebu mor gyflym a hawdd. Mae’r staff bob amser o gymorth mawr a gallwn ni bob amser sicrhau eu bod yn gwneud pethau’n gyflym.

Kirstie Mason | Cynorthwy-ydd Adnoddau Dynol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Webrecruit’s ATS takes all the noise away so we can focus on where we’re going. It gives us the time to be more strategic in our approach because we’re not up to our eyes dealing with candidates and administration.

Helen Crocker | Personnel Systems Officer, Pembrokeshire Coast National Park Authority

Mae SOY Webrecruit yn cael gwared â’r ffwdan fel y gallwn ni ganolbwyntio ar beth yr ydym yn ei wneud. Mae’n rhoi amser inni fod yn fwy strategol yn ein dull, fel nad oes gennym ni ormod o waith yn ymdrin ag ymgeiswyr a gweinyddu.

Helen Crocker | Swyddog Systemau Personél, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

All the Tools You Need
Yr Holl Offer yr ydych chi ei angen

Our hiring platform transforms outdated processes and technology into slicker, more streamlined ways of working, saving you both time and money. As industry pioneers, we are constantly evolving the solutions within our platform, helping you remain at the cutting-edge with your recruitment needs. Whether you’re looking for the latest bilingual recruitment technology or you’re looking to rationalise your advertising suppliers, we’re here to help.

Mae ein platfform cyflogi yn trawsnewid prosesau a thechnoleg hen ffasiwn yn ffyrdd symlach, mwy deheuig o weithio, sy’n arbed amser ac arian i chi. Fel arloeswyr yn y diwydiant, rydym yn gyson yn datblygu’r atebion o fewn ein platfform, gan eich helpu chi i barhau ar flaen y gad gyda’ch anghenion recriwtio. P’un a ydych chi’n chwilio am y dechnoleg recriwtio ddwyieithog ddiweddaraf neu’n ystyried ad-drefnu eich cyflenwyr hysbysebu, rydym ni yma i helpu.

Ready to Get Started?
Ydych chi’n barod i ddechrau?

Over the past two decades, we’ve helped some of the leading businesses, charities and public sector organisations to transform their recruitment processes. Now find out how we can help you.

Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi helpu rhai o’r prif fusnesau, elusennau a sefydliadau’r sector cyhoeddus i drawsnewid eu prosesau recriwtio. Yn awr, darganfyddwch sut y gallwn ni eich helpu chi.