Webrecruit launches Applicant Tracking System and Bilingual Careers Site for Welsh Parliament (Senedd Cymru)

Following a tender process, Webrecruit has successfully implemented an Applicant Tracking System (ATS) and bilingual Careers Site for Welsh Parliament, Senedd Cymru.

Webrecruit, a leader of innovation and transformation in the recruitment industry, was awarded the contract to provide Welsh Parliament, commonly known as the Senedd, with an online recruitment system. The contract will last for an initial term of five years, with an option to extend for a further five years.

David Jones, Managing Director at Webrecruit says:

“I am delighted to see the successful launch of the Senedd’s ATS and Careers Site. Webrecruit is looking forward to partnering with the Welsh Parliament over the coming years to help them provide a bilingual and equal technological candidate experience. We are confident that our cutting-edge recruitment software’s Welsh language pack will assist the Senedd to continue delivering against its official languages responsibilities and ambition.”

Jan Koziel, Contract Manager and Head of Procurement at the Senedd says:

“The Senedd was looking for an online recruitment system that could provide a fair and equal candidate experience in both Welsh and English. Webrecruit ATS stood out to us as it gives us complete control over the translations held in the software, rather than relying on automated API translations. The system is user-friendly and contains all the functionality we required, including the ability to manage and distribute jobs, raise job requisitions, onboard new hires and communicate effectively with our candidates. We are excited to measure the impact this technology has on our candidate and hiring manager experience and the Welsh Parliament’s ability to increase the diversity of our talent pipeline moving forwards.”

About Webrecruit

Webrecruit’s hiring platform encompasses industry-leading online recruitment advertising, technology and careers site solutions that transform the hiring process of companies, public sector organisations and educational institutions across the UK. Its platform is a unique suite of software and digital recruitment advertising solutions, based around its cloud-based Applicant Tracking System (ATS), that solve the common problems facing businesses, helping them to significantly reduce their cost and time to hire.

[www.webrecruit.co]

About Welsh Parliament

The Welsh Parliament is the democratically elected body that represents the interests of Wales and its people. Commonly known as the Senedd, it makes laws for Wales, agrees Welsh taxes and holds the Welsh Government to account.

[www.senedd.wales]

For more information, contact:

Sam Gedye, Account Director – Public Sector
Webrecruit
01392 822196
sgedye@webrecruit.co.uk

Webrecruit yn lansio System Olrhain Ymgeiswyr a Safle Gyrfaoedd Dwyieithog ar gyfer Senedd Cymru

13 Ionawr 2021

Yn dilyn proses dendro, mae Webrecruit wedi llwyddo i lansio System Olrhain Ymgeiswyr a Safle Gyrfaoedd Dwyieithog ar gyfer Senedd Cymru.

Dyfarnwyd contract i Webrecruit, sy’n geffyl blaen o ran arloesi a thrawsnewid y diwydiant recriwtio, i ddarparu system recriwtio ar-lein i Senedd Cymru. Bydd y contract mewn grym am bum mlynedd yn y lle cyntaf gydag opsiwn i’w ymestyn am bum mlynedd arall.

Dywedodd David Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Webrecruit:

“Rydw i wrth fy modd bod System Olrhain Ymgeiswyr a Safle Gyrfaoedd y Senedd wedi’u lansio’n llwyddiannus. Mae Webrecruit yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Senedd Cymru dros y blynyddoedd nesaf i’w helpu i ddarparu profiad dwyieithog a thechnolegol i ymgeiswyr. Rydym yn hyderus y bydd pecyn iaith Gymraeg ein meddalwedd recriwtio dyfeisgar yn cynorthwyo’r Senedd i barhau i gyflawni ei gyfrifoldebau a dyheadau ieithoedd swyddogol.”

Dywedodd Jan Koziel, Rheolwr y Contract a’r Pennaeth Caffael yn y Senedd:

“Roedd y Senedd yn chwilio am system recriwtio ar-lein a allai gynnig profiad teg a chyfartal i ymgeiswyr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd System Olrhain Ymgeiswyr Webrecruit wedi creu argraff arnom gan ei fod yn rhoi rheolaeth lwyr i ni dros y cyfieithiadau yn y feddalwedd, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiadau API awtomataidd. Mae’r system yn hawdd i’w defnyddio ac yn cynnig yr holl swyddogaethau roeddem yn chwilio amdanynt, gan gynnwys rheoli a dosbarthu swyddi, gwneud cais i lenwi swydd, cynefino gweithwyr newydd a chyfathrebu’n effeithiol gyda’n hymgeiswyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fesur effaith y dechnoleg hon ar brofiadau ymgeiswyr a’n rheolwyr cyflogi yn ogystal â chynyddu gallu Senedd Cymru i gynyddu amrywiaeth yn ein llif talent i’r dyfodol.”

Gwybodaeth am Webrecruit

Mae platfform cyflogi Webrecruit yn ymgorffori datrysiadau ar-lein ar gyfer hysbysebu a recriwtio, technoleg a safle gyrfaoedd ac mae hyn wedi gweddnewid prosesau cyflogi cwmnïau, sefydliadau yn y sector cyhoeddus a sefydliadau addysg ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r platfform yn gyfres unigryw o feddalwedd a datrysiadau recriwtio a hysbysebu sy’n seiliedig ar ei System Olrhain Ymgeiswyr yn y cwmwl. Gall ddatrys y problemau cyffredin a brofir gan fusnesau a’u helpu i wneud arbedion sylweddol o ran cost ac amser wrth gyflogi gweithwyr newydd.

[www.webrecruit.co]

Gwybodaeth am Senedd Cymru

Senedd Cymru yw’r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl. Mae’r Senedd yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

[www.senedd.cymru]

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Sam Gedye, Cyfarwyddwr Cyfrif – Sector Cyhoeddus
Webrecruit
01392 822196
sgedye@webrecruit.co.uk



Leave a Reply